Sefydliad Cymunedol Cymru yn lansio ’Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – apêl argyfwng costau byw’

Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar grwpiau cymunedol o bob maint, gan achosi iddynt ei chael hi’n anodd cwrdd â chostau cynyddol darparu gwasanaethau hanfodol ar adeg pan fo’r galw am y gwasanaethau hyn yn cynyddu.

Er mwyn ymateb i’r anghenion cynyddol hyn, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi lansio Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – apêl argyfwng costau byw. Bydd arian sy’n cael ei godi yn cefnogi elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu’r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw.

Gallai eich rhodd i’r apêl helpu i ddarparu grant o £1,000 a fyddai’n cefnogi sefydliad i:

  • Cyflwyno sesiynau cymorth un i un ar gyllid i unigolion sydd angen help i gyllidebu.
  • Darparu dosbarthiadau i deuluoedd am goginio prydau iach, economaidd neu siopa wythnosol clyfar.
  • Darparu mynediad at Technoleg Gwybodaeth a gwasanaethau cymorth eraill i deuluoedd nad ydynt yn gallu cael dau ben llinyn ynghyd.
  • Helpu lleoliad cymunedol i aros ar agor ac yn gynnes i gefnogi pobl fregus yn y gymuned.

Rydym yn cydweithio â chwmni cyfryngau Newsquest ar yr apêl fydd yn gweld yr ymgyrch yn cael ei chynnwys yn eu platfformau print ac ar-lein.

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Ar draws Cymru, mae effeithiau’r argyfwng costau byw yn cael eu teimlo ac mae’r rhai mwyaf anghenus yn dioddef.

Mae grwpiau ac elusennau llawr gwlad yn rhoi cymorth hanfodol i’w cymunedau, ac maen nhw’n cael trafferth cwrdd â chostau cynyddol sy’n eu rhoi mewn perygl o fethu â darparu gwasanaethau hanfodol pan fo’r galw yn cynyddu.

Rydym yn annog pobl a busnesau ledled Cymru i’n helpu i godi cymaint o arian â phosibl i helpu i gefnogi ein cymunedau drwy’r argyfwng hwn.”

I wneud y gorau o bob rhodd, byddwn yn cyfateb i hyd at £25,000 o roddion gan unigolion, gan ychwanegu £1 am bob £1.

Gallwch gyfrannu ar-lein yma.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…