Sefydliad Cymunedol Cymru’n croesawu pedwar aelod newydd ar y bwrdd

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi croesawu pedwar ymddiriedolwr newydd ar y bwrdd

Mae Annabel Lloyd wedi gweithio mewn amrywiaeth eang o sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, yn bennaf fel ymgynghorydd cyfathrebu. Yn ddiweddar, ail ymunodd Annabel â’r byd llawrydd er mwyn gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth ehangach o weithgareddau ac mae hynny wedi cynnwys ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae Annabel yn byw ym Mhenarth, Bro Morgannwg.

Mae gan Samsunear Ali o Gaerdydd, 25 mlynedd o brofiad o weithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac ar hyn o bryd mae’n Ddirprwy Brif Weithredwr BAWSO, sefydliad sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i gymunedau Du a Lleiafrifol Ethnig sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin yn y cartref a ffurfiau eraill o Drais yn erbyn Merched. Mae’i gwaith yn cynnwys lobïo ac ymgyrchu ar faterion Trais yn erbyn Merched ac mae’n cynrychioli BAWSO yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae Sarah Corser yn un o benaethiaid cwmni cyfreithiol cenedlaethol Shoosmiths ac mae ganddi brofiad o weithio gyda theuluoedd bregus yn ogystal â chefnogi nifer o elusennau sy’n gweithio gyda rhai sydd wedi dioddef anaf meddyliol neu gorfforol. Daw Sarah o Feifod, Sir Drefaldwyn.

Cefndir technegol a chyfreithiol sydd gan Gwyn Owen o Feddgelert, Gwynedd, ac mae wedi treulio llawer o’i oes fel cyflafareddwr yn datrys anghydfod yn y Llys Troseddol Rhyngwladol ym Mharis ac yn cyflafareddu’n rhyngwladol.

Meddai Alun Evans, Cadeirydd Sefydliad Cymunedol Cymru,

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu pedwar ymddiriedolwr newydd ar fwrdd Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae ganddyn nhw amrywiaeth eang o brofiad mewn sawl sector a, gyda’i gilydd, bydd eu sgiliau yn mynd ymhell iawn i gefnogi’n gwaith o ysbrydoli pobl i roi, i helpu cymunedau Cymru i ffynnu ac i newid bywydau gyda’n gilydd.”

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu