Katy Hales
Cyfarwyddwr Dyngarol
Fy nghefndir
Ymunais â sefydliad cymunedol Cymru ym mis Medi 2018. Gweithiais yn y sector Prifysgolion am 8 mlynedd cyn hynny, gan ganolbwyntio’n bennaf ar godi arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau, etifeddiaethau, rhoddion mawr a datblygu cyn-fyfyrwyr. Cyn hyn, gweithiais fel Swyddog Cyswllt ar gyfer Deloitte, yn arbenigo ym maes Treth Ryngwladol.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Fel Cyfarwyddwr Dyngarol, mae fy swydd yn ymwneud yn bennaf â chysylltu â darpar ddyngarwyr, ond gan feithrin cefnogwyr presennol y Sefydliad ar yr un pryd. Rwy’n cynnal portffolio o gynghorwyr cyfreithiol ac ariannol, gan weithio mewn partneriaeth â nhw er mwyn paru rhoddwyr â “gweithredwyr” yn y gymuned.
Holwch fi ynghylch...
Caffael rhoddion mawr, gadael rhodd yn eich ewyllys, mynychu digwyddiad rhwydweithio neu ddigwyddiad rhannu gwybodaeth.
Pam rwy'n caru Cymru
Symudais i Gymru o Reading er mwyn mynychu Prifysgol Caerdydd ac nid wyf wedi edrych yn ôl. Nid ydych byth mwy nag ychydig filltiroedd i ffwrdd o’r arfordir, cefn gwlad, mynyddoedd a llynnoedd, ac mae ansawdd y sîn bwyd wedi gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.