Andrea Powell

Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Prif Weithredwr)

Andrea Powell

Fy nghefndir

Rwyf wedi gweithio yn y sector wirfoddol am y rhan fwyaf o’m mywyd gwaith, ym maes darparu gwasanaethau yn wreiddiol ond ym maes gwneud grantiau yn fwy diweddar. Cyn dechrau gyda Sefydliad Cymunedol Cymru yn 2013, treuliais 10 mlynedd ar y tîm grantiau ar gyfer Plant Mewn Angen y BBC, lle roeddwn yn gyfrifol am gefnogi’r sawl a oedd yn cael grantiau drwy gydol y broses grantiau, o wneud cais i fonitro a gwerthuso tra hefyd yn helpu’r tîm codi arian yn ystod yr apêl flynyddol.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Fi yw’r Rheolwr Grantiau a Rhaglenni yn Sefydliad Cymunedol Cymru. Rwy’n hoff iawn o’m swydd ac yn ei ystyried yn fraint i weithio gyda thîm mor wych, gwybodus a brwdfrydig.

Fy swydd i yw sicrhau bod ein gwaith o wneud grantiau yn cael yr effaith fwyaf drwy fynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar bobl yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy gyfarfod a siarad â phobl sydd â phrofiad gwirioneddol o bob cefndir, o’r rhai sy’n cael y gwasanaethau/prosiectau a ariennir yn ogystal â’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n darparu gwasanaethau/prosiectau. Rydym yn rhannu’r gwersi a ddysgir gyda chydweithwyr ac eraill er mwyn llywio’r cymorth rydym yn ei gynnig i’n hymgeiswyr yn ogystal â helpu gyda’r gwaith o gynllunio rhaglenni grant mwy perthnasol.

Yn naturiol rwy’n dueddol o feithrin a datblygu’r rhai sydd o’m cwmpas. Rwyf ar fy hapusaf pan fyddaf yn gallu gweld pobl yn cymryd camau bach tuag at newid sylweddol. Mae eu rhyddhad, eu gwenau, y cynnydd yn eu hyder a’u cred ynddynt eu hunain a’u gallu yn rhoi teimlad cynnes, braf i mi sy’n fy nghymell i barhau. Nid wyf yn berson sy’n sefyll yn llonydd, rwy’n hoffi gwrando a dysgu ac rwy’n mwynhau her.

Holwch fi ynghylch...

…jargon gwneud grantiau! Gan gynnwys sut y gallwch wella eich cais, beth yw tystiolaeth dda o angen, y gwaith o fonitro a gwerthuso eich prosiect, sicrhau llywodraethu cadarn ac ati.

Rwyf bob amser yn fodlon trafod syniadau ar gyfer prosiectau, ffyrdd o’ch cysylltu chi ag eraill sy’n gweithio mewn meysydd tebyg a syniadau ar gyfer rhannu’r arfer gorau er mwyn sicrhau bod y trydydd sector yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn sicrhau enw da ar gyfer ymgysylltu a chymryd rhan.

Pam rwy'n caru Cymru

Pam ddim! Mae gen i bopeth sydd ei angen arnaf yma – teulu, glan y môr, mynyddoedd, cefn gwlad, diwylliant, treftadaeth ac, wrth gwrs, ein hiaith ein hunain. Mae Cymru yn fach ond mae’n brydferth.

Team members

Gweld y cyfan
Asha Vijendran

Asha Vijendran

Pennaeth Gweithrediadau Grantiau

Richard Williams

Richard Williams

Prif Weithredwr

Katy Hales

Katy Hales

Cyfarwyddwr Dyngarol

Ffion Roberts

Ffion Roberts

Rheolwraig Grantiau a Rhaglenni