Alun Evans

Cadeirydd

Alun Evans

Fy nghefndir

Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, dechreuais weithio yn y diwydiant rheoli buddsoddiadau a gweithiais i Capel-Cure Myers, Carr Sheppards Crosthwaite ac roeddwn i’n gyfarwyddwr yno. Yn fwy diweddar, bûm yn gweithio i Quilter Cheviot ac ar ôl hynny, ymddeolais ar ôl 40 mlynedd yn Ninas Llundain. Rwy’n un o Gymrodyr y Sefydliad Siartredig ar gyfer Gwarannau a Buddsoddiadau ac yn sicrhau bod gen i’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiadau fel cyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth CQS Natural Resources Growth and Income.

Deuthum yn un o Ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru ym mis Ionawr 2013 ac yn Gadeirydd ym mis Gorffennaf 2016, er fy mod i eisoes wedi ymwneud â’r Sefydliad ers 2009 fel llysgennad answyddogol yn Llundain. Rwyf hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Sefydliadau Cymunedol y DU ac Ysgol Walthamstow Hall.

Mae fy nheulu yn byw yn Aberaeron, Ceredigion, ac rydw i a’m gwraig yn ceisio treulio cymaint o amser â phosibl yno.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Fel Cadeirydd, fy rôl yw ceisio hyrwyddo a goruchwylio gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru, ynghyd â’m cyd-Ymddiriedolwyr. Rwy’n ffodus iawn i gael grŵp o Ymddiriedolwyr sy’n fwy na pharod i helpu a rhoi cyngor, sy’n gwneud fy rôl gymaint yn haws, ac mae’n rhaid i mi ddiolch iddynt am hynny. Fodd bynnag, dydyn ni byth yn anghofio mai ymddiriedolwyr anweithredol ydym ac felly Richard Williams a’i dîm sy’n gyfrifol am y gwaith o reoli’r Sefydliad o ddydd i ddydd.

Rwy’n hynod falch i fod yn Gadeirydd, am fod y rôl yn rhoi’r cyfle i mi helpu cymunedau ar hyd a lled Cymru.

Holwch fi ynghylch

Yr effaith y gall rhoddion ei chael ar gymunedau ar hyd a lled Cymru, a sut y gallwch helpu. Mae gweld y gwahaniaeth y gall grant ei gael yn uniongyrchol yn wych, er y gall fod yn anodd weithiau. Nes i mi ymweld â’r sawl a oedd yn cael ein grantiau, doedd gen i ddim syniad o’r effaith maent yn ei chael o ran newid bywydau, ni waeth pa mor fach ydynt.

Gallwch helpu drwy roi rhodd i Sefydliad Cymunedol Cymru, gan wybod y caiff yr arian ei ddefnyddio i helpu cymunedau yng Nghymru!

Pam rwy'n caru Cymru

Rwy’n credu bod y ffaith fy mod i wedi byw y tu allan i Gymru am gymaint o flynyddoedd wedi fy ngwneud i’n Gymro mwy brwd o lawer. Fodd bynnag, gan fy mod i wedi ymddeol o’r Ddinas, gallaf dreulio cymaint mwy o amser gartref yn Aberaeron.

P’un a wyf yn gwylio Cymru’n chwarae rygbi yn Stadiwm y Principality, yn gweld opera gan Opera Cenedlaethol Cymru, yn hwylio ym Mae Ceredigion, yn chwarae golff yn edrych dros yr aber yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, neu’n gyrru i weld y teulu ym Mlaenau Ffestiniog (ac am olygfeydd gwych), does dim byd tebyg!

Trustees

Gweld y cyfan
Gaenor Howells

Gaenor Howells

Ymddiriedolwyr

Ian Thomas

Ian Thomas

Ymddiriedolwyr

Ruth James

Ruth James

Ymddiriedolwyr

Sarah Corser

Sarah Corser

Ymddiriedolwr