Kathryn Morris

Trysorydd

Kathryn Morris

Fy nghefndir

Rwy’n gyfrifydd siartredig ac am lawer o flynyddoedd, roeddwn yn Gyfarwyddwr Cyllid S4C, y sianel deledu Gymraeg. Yn ystod fy nghyfnod yno, roeddwn yn gyfarwyddwr ar holl is-gwmnïau masnachol S4C ac yn un o ymddiriedolwyr Cynllun Pensiynau Ofcom.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Rwy’n un o ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Risg a Buddsoddi sydd hefyd yn goruchwylio adnoddau dynol.

Holwch fi ynghylch

Y model sefydliad cymunedol, sy’n ffordd effeithlon tu hwnt o gysylltu’r rhai sydd â’r adnoddau i wneud gwahaniaeth â’r rhai a all ddarparu’r gwahaniaeth hwnnw.

Pam rwy'n caru Cymru

Cefais fy magu yn Ne Sir Benfro sydd â’r traethau gorau yn y byd. Fel siaradwr Cymraeg, rwy’n hoffi fy mod i’n gallu mwynhau’r diwylliant arbennig y mae’r ddwy iaith yn eu cynnig. Rwy’n dod o deulu cerddorol, felly rwy’n ymweld â llawer o leoliadau amrywiol ar hyd a lled Cymru fel ‘roadie’ neu fel gyrrwr tacsi!

Trustees

Gweld y cyfan
Gaenor Howells

Gaenor Howells

Ymddiriedolwyr

Ian Thomas

Ian Thomas

Ymddiriedolwyr

Ruth James

Ruth James

Ymddiriedolwyr

Sarah Corser

Sarah Corser

Ymddiriedolwr