Osian Prys Elis
Ymddiriedolwyr
Fy nghefndir
Yn wreiddiol o Abergele yng ngogledd Cymru, astudiais ym Mhrifysgol Rhydychen, ble cwblheais raddau israddedig ac ôl-radd mewn Hanes yng Ngholeg yr Iesu a Choleg Corpus Christi. Ar ôl graddio yn 2021, dychwelais adref i ogledd Cymru i ymuno â chynllun graddedig llywodraeth leol gyda Chyngor Gwynedd, law-yn-llaw â chwblhau gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus (MPA) ym Mhrifysgol Efrog gyda Rhagoriaeth, yn ogystal ag Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Erbyn hyn, ‘dw i’n Arweinydd Tîm yn y maes datblygu economaidd yng Nghyngor Gwynedd ac yn brif Swyddog ar gyfer Gwynedd yn y Bartneriaeth ARFOR – yn cefnogi mentrau lleol, cymunedau ac unigolion i ffynnu ledled y sir, yn cryfhau’r iaith Gymraeg trwy’r economi, ac yn helpu pobl ifanc a theuluoedd i aros yng ngogledd a gorllewin Cymru neu ddychwelyd.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Fel Ymddiriedolwr newydd yn Sefydliad Cymunedol Cymru, ‘dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael cefnogi’r gwaith gwerthfawr y mae’r Sefydliad yn ei wneud ledled Cymru, hynny gyda’m cyd-aelodau Bwrdd a swyddogion rhagorol yr elusen.
Holwch fi ynghylch...
Sut y gall y Sefydliad eich cefnogi chi a’ch sefydliad, a sut gallwch chi gefnogi gwaith pwysig y Sefydliad ledled Cymru.
Pam rwy'n caru Cymru
Dychwelais i fyw a gweithio yng Nghymru ar ôl graddio am fy mod yn caru Cymru gymaint – yn caru ei phobl a’i chymunedau, ei hamgylchedd naturiol eithriadol, a’i hanes a’i diwylliant cyfoethog. Ac fel siaradwr Cymraeg, mae cael byw mewn gwlad ddwyieithog a mwynhau cyfoeth diwylliannol ein dwy iaith yn wirioneddol arbennig.