Ruth James
Ymddiriedolwyr
Fy nghefndir
Rwy’n gyfrifydd siartredig. Roeddwn yn aelod arweiniol o’r uwch dîm rheoli a chyfarwyddwr bwrdd Jones Bros Civil Engineering UK am 12 mlynedd. Roeddwn yn gyfrifol am ystod eang o’r unedau busnes gan gynnwys AD a chyflogres, cynllunio’r gweithlu a hyfforddiant.
Rhan fawr o’m rôl oedd nodi’r gofynion a chyflwyno gwelliannau cynaliadwy, y gellir eu defnyddio i’r offer sy’n sail i weithgareddau’r timau cyflenwi prosiectau.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Rwy’n un o ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru ac yn aelod o’r pwyllgor cyllid a grantiau.
Rwy’n gyfarwyddwr anweithredol ar gymdeithas dai sydd wedi ei lleoli yn y Gogledd.
Rwy’n gwirfoddoli i rai clybiau a grwpiau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned leol ac rwy’n llywodraethwr ysgol.
Holwch fi ynghylch...
Rhedeg busnes yng Nghymru.
Yr amrywiaeth y gall Cymru ei gynnig o ran diwylliant, tirwedd a chwaraeon.
Pam rwy'n caru Cymru
Cymru yw fy nghartref ac fe ddychwelais i fyw yn fy sir enedigol, Sir Ddinbych yn 2014, gan ei fod yn lle bendigedig i fagu fy nheulu.
Gall yr amrywiaeth o gyfle y gall Cymru ei gynnig o ran diwylliant, tirwedd a chwaraeon.
Yr Eisteddfodau, Sioe Frenhinol Cymru, stadia, theatrau, bryniau, mynyddoedd, llynnoedd, parciau cenedlaethol, a’r ymdeimlad cryf o falchder o fod yn Gymry.