UN BILIWN O BUNNAU

Diolch biliwn o weithiau! Mae Sefydliadau Cymunedol yn dathlu rhoi £1 BILIWN i elusennau lleol

Elusennau lleol yw anadl einioes ein cymunedau. Maent yn gwneud gwahaniaeth dyddiol i filiynau bobl. Dyna pam mae Sefydliadau Cymunedol yn falch o gyhoeddi heddiw, ar Ddiwrnod Elusennau Lleol, ein bod, gyda’n gilydd, wedi dosbarthu UN BILIWN O BUNNAU i elusennau lleol.

Dengys y garreg filltir hon yr effaith y mae Sefydliadau Cymunedol wedi’i chael ar gymunedau lleol. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, ledled y Deyrnas Unedig fe wnaethom ddosbarthu £77 miliwn mewn grantiau ac fe effeithiwyd ar 4.7 miliwn o bobl gan ein gwaith.

Mae’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ei hun wedi rhoi £21 miliwn i elusennau yng Nghymru – gan drosglwyddo £2.6 miliwn ‘llynedd yn unig i fwy na 500 o grwpiau cymunedol lleol.

O lifogydd i dlodi tanwydd i fanciau bwyd, cefnogwn gymunedau lle mae arnynt angen cymorth fwyaf. Cyrhaeddwn bob cod post yn y Deyrnas Unedig, ac mae’r cyrhaeddiad hwn yn golygu ein bod yn cefnogi’r elusennau a’r grwpiau cymunedol lleiaf un, sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu gan lawer. Ond dyma’r elusennau sy’n anadl einioes i gynifer o bobl ac sydd angen ein cefnogaeth mor ddirfawr.

Edrychwch, er enghraifft, ar y prosiect hwn a gyllidwn yng Nghymru sy’n helpu pobl sy’n wynebu arwahanrwydd. Ariannwyd prosiect y Pentref Canu drwy’r gronfa a sefydlwyd gan ein rhoddwr cyntaf a roes filiwn o bunnau, y Dr Dewi Davies.

‘Mae’r Pentref Canu yn grŵp canu wythnosol mewn adeiladau byw â chymorth yn Aberteifi. Mae’r prosiect yn cyrraedd pobl hŷn sy’n byw ar eu pen eu hunain ac sy’n profi unigedd. Mae rhai o’r cyfranogwyr yn y grŵp yn byw mewn ardaloedd gwledig ac ni allant yrru cerbyd, ac felly fe dalwyd treuliau teithio i wirfoddolwyr roi lifft iddynt o’u cartref. Gwnaeth arweinydd côr profiadol alluogi’r grŵp ddysgu canu mewn harmoni. Roedd hyn yn golygu bod y grŵp yn gwella’i ffordd o wrando a’i gywair, rhythm ac amseru, yn y bôn ‘yn tiwnio i mewn’ i’r naill a’r llall, sydd ynddo’i hun yn hwyluso cysylltiad ac yn creu cwlwm. Sylweddolodd y grŵp fod ganddynt y gallu i ganu mewn harmoni fel ‘côr go iawn’, gan ennill sgiliau newydd, ac roedd swnio’n dda yn rhoi hwb enfawr i’w hyder.

‘Mae canu’n brofiad cyfan gwbl newydd sydd wedi rhoi hyder a llawer o bleser imi. Mae’n rhoi gwedd gadarnhaol ar fywyd’ – aelod o’r grŵp a chanddo faterion iechyd meddwl.

Drwodd a thro, mae’r prosiect wedi cael effaith enfawr. Canfu cyfranogwyr fod canu wedi helpu’u hanadlu ac ei fod yn ymlaciol ac yn codi calon. Canfuant fod y grŵp yn rhoi mwy o strwythur i’w hwythnos a’u bod wedi ennill cyfeillion newydd. Mae buddion mwy cyffredinol yn cynnwys rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymdeithasol.

Mae staff wedi sylwi ar sut mae aelodau’r grŵp yn teimlo’n dda ar ôl canu, ac mae’r positifrwydd hwn o fudd i bawb a ddaw mewn cysylltiad â nhw ac mae’n creu awyrgylch mwy ysbrydoledig.’

Dywedodd Richard Williams, prif weithredwr Sefydliad Cymunedol yng Nghymru: “Mae hwn yn ddiwrnod o bwys i fudiad y sefydliad cymunedol yn y Deyrnas Unedig ac yn gyfle i amlygu pwysigrwydd cefnogaeth fel hyn mewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt. Yn yr amseroedd hyn o doriadau i gyllid cyhoeddus, mae ein gallu i gysylltu dyngarwyr a rhoddwyr â gweithredu cymunedol yn bwysicach nag erioed.

“Mae’r grantiau hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr mewn cymunedau lleol ac yn rhoi’r cyfle i bobl fynd i’r afael â phroblemau a datblygu’u datrysiadau’u hunain. Rydym yn gweithio’n galed â’n rhoddwyr a’n partneriaid yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig i barhau i gynyddu’n cefnogaeth i grwpiau cymunedol yng Nghymru.”

Dywedodd Fabian French, prif weithredwr Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig: “Yn Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig, rydym yn falch o weithio ag elusennau lleol anhygoel o ddydd i ddydd. Deallwn anghenion y cymunedau rydym yn gweithio ynddynt ac fe gyfeiriwn grantiau at achosion fydd yn diwallu’r angen hwnnw ac a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Dyna pam rydym yn cefnogi Diwrnod Elusennau Lleol yn angerddol a pham mae Sefydliadau Cymunedol – yng ngeiriau Cadeirydd y Comisiwn Elusennau – ‘yn union yr hyn y dylai elusennau fod’.”

Cefnogwch eich Sefydliad Cymunedol lleol a helpwch ni i gyrraedd dau biliwn o bunnau fel ein bod yn gallu parhau i gefnogi cymunedau lleol.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu