Y Comisiwn Elusennau’n anelu at ryddhau £25 miliwn ar gyfer elusennau yng Nghymru

Fel rhan o’r rhaglen Ymddiriedolaeth Adfywio mae’r Comisiwn yn bwriadu cysylltu gyda mwy na 200 o elusennau yng Nghymru i ryddhau targed o £25 miliwn sydd ar hyn o bryd yn gorwedd yn llonydd mewn cyfrifon segur.

Bydd y rhaglen yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru gydag arian oddi wrth Lywodraeth Cymru a bydd yn gweithio drwy nodi elusennau yng Nghymru sydd naill ai’n segur (sy’n golygu nad yw’r elusen wedi cael unrhyw incwm na gwariant yn ystod y 5 mlynedd diwethaf) neu’n aneffeithiol (wedi gwario llai na 30% o gyfanswm eu hincwm yn ystod y 5 mlynedd diwethaf).

Bydd y Comisiwn yn rhoi dewis i’r ymddiriedolwyr weithredu – gyda chymorth i gael yr elusen yn ôl ar ei thraed os bydd angen.

Fel arall, bydd yr arian yn cael ei ailgyfeirio at achosion sy’n cyd-fynd ag amcanion yr elusen segur neu bydd ymddiriedolaeth yn cael ei throsglwyddo i Sefydliad Cymunedol Cymru i’w rheoli yn y tymor hir er budd cymunedau lleol. Os bydd yn cael ei throsglwyddo, bydd arian yn cael ei roi i elusennau mewn angen, yn ogystal ag i greu ffynhonnell o incwm rheolaidd a fydd yn cynnal eu gwaith i helpu cymunedau am flynyddoedd.

Bydd yr elusennau na fydd bellach yn gallu gweithredu yn cael eu dirwyn i ben a’u tynnu oddi ar y gofrestr elusennau. Ers ei lansio yn 2018, mae fersiwn Saesneg o’r rhaglen wedi adfywio dros £32 miliwn ar gyfer mwy na 1,800 elusennau oedd yn cymryd rhan.

Er enghraifft, fis Ionawr 2019, nododd y Comisiwn Elusennau fod Cronfa Mwynderau Nyrsio Berwick Upon Tweed yn ymddiriedolaeth segur ac yn gymwys ar gyfer y rhaglen. Ar ôl penderfynu ei dirwyn i ben, trosglwyddwyd dros £42,500 i Gronfa Northern Angel yn Sefydliad Cymunedol Tyne and Wear. Mae’r gronfa hon yn cefnogi gweithgaredd elusennol sy’n gwella sgiliau pobl leol, yn gwella cydlyniad cymunedol ac yn cyfrannu at ddiwylliant unigryw ac amrywiol Berwick. Ychwanegwyd Iechyd a Lleisant hefyd at amcanion y gronfa er mwyn eu cadw’n unol â rhai Cronfa Mwynderau Nyrsio Berwick upon Tweed.

Meddai Helen Stephenson, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn cyflwyno’r rhaglen lwyddiannus hon i gefnogi elusennau a’r cymunedau y maen nhw’n gweithio gyda nhw ledled Cymru. Hyd yma, rydyn ni wedi mynd y tu hwnt i’n targedau cychwynnol ac wedi rhyddhau mwy na £32 miliwn i helpu elusennau yn Lloegr ac, erbyn hyn, gyda chyllid oddi wrth Llywodraeth Cymru, rydym eisiau gweld llwyddiant tebyg ar gyfer elusennau yng Nghymru – yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn pan mae cymaint mwy o angen.

Mae’r Comisiwn Elusennau felly yn galw ar ymddiriedolwyr elusennau yng Nghymru a allai fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, i ddod ymlaen naill ai i gael cymorth i ail sefydlu ac ail-gychwyn eto, neu er mwyn trosglwyddo arian sydd ar hyn o bryd yn segur mewn cyfrifon i helpu elusennau gweithgar yn y ffordd orau i fod o fudd yng Nghymru.”

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda’r Comisiwn Elusennau a Llywodraeth Cymru yn darparu’r rhaglen hon yng Nghymru.

Bydd y grantiau a ddaw trwy’r Rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau yn achubiaeth i elusennau ar lawr gwlad wrth iddyn nhw ymdrechu i adfer o’r pandemig Coronafeirws tra’n dal i gefnogi cymunedau ar draws Cymru.”

Meddai Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru:

“Bydd y sector wirfoddol yng Nghymru, gan gynnwys elusennau ac ymddiriedolaethau, oedd yn rhan hanfodol o’r ymateb i Covid-19, hefyd â rhan hanfodol mewn llwyddo i gael adferiad teg, cyfiawn a gwyrdd. I gyflawni hynny, bydd yn rhaid i sefydliadau bychain yn sector gwirfoddol gael cefnogaeth grantiau.

Bydd Rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau Cymru’n helpu elusennau ac ymddiriedolaethau i wneud defnydd o adnoddau prin drwy gefnogi’n cymunedau yng Nghymru.

Drwy’r rhaglen, hefyd, rydyn ni’n adeiladu ar ein perthynas ar hyn o bryd gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, mae’n sefydliad rhagorol sydd wedi darparu arian o’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol i gefnogi sefydliadau gydol y pandemig.

Byddwn yn dal i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau fod cefnogaeth ar gael trwy’r cyfnod adfer. Rydym yn gobeithio y bydd y rhaglen Adfywio Ymddiriedolaethau Cymru’n ffurfio rhan bwysig o’r darlun yn y tymor hirach.”

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…