A oes ffordd gywir o roi?

Ydych chi erioed wedi dychmygu ennill y loteri a meddwl am yr holl bethau y gallech chi eu gwneud gyda’ch cyfoeth newydd? Fyddech chi’n talu eich morgeisi chi a’ch teulu’n gyntaf, mynd i deithio neu brynu dillad neu gar newydd? Fyddech chi’n poeni a fyddai eich cyfoeth yn eich newid chi ac efallai yn difetha eich bywyd?

Mae’r erthygl hon o’r Daily Record yn disgrifio sut yr oedd Colin Weir, a enillodd £160 miliwn ar y Lotto, wedi ‘chwalu ei ffortiwn’ fesul £100,000 yr wythnos. Ond, o graffu ychydig, heblaw am wario cyfran eithaf pitw o’r gyfoeth ar geir ac eiddo, roedd Colin, mewn gwirionedd, wedi buddsoddi’r rhan fwyaf o’i enillion yn ei gymuned ei hun.

Dyw’r erthygl ddim yn trafod manylion pa mor amlwg gymdeithasol yr oedd Colin. Dim ond crybwyll wrth fynd heibio ei fod wedi cyfrannau at lawer o ymddiriedolaethau elusennol. Mae’r erthygl yn crybwyll prynu’r tîm pêl-droed lleol, Partick Thistle yn yr un gwynt a phrynu cheir, tai ac anrhegion i’w deulu a’i ffrindiau, fel pe bydden nhw i gyd yr un peth.

Gallai gwario arian ar dîm pêl-droed lleol edrych fel buddsoddiad ariannol eithaf sigledig i rai, ond, i’r gymuned lle mae Partick Thistle, bydd y rhodd wedi bod yn hwb anferth i glwb mewn trafferthion ac i’w gefnogwyr hefyd.

Cymharwch stori Colin gydag un y biliwnydd Bill Gates a’i sefydliad, Sefydliad Bill a Melinda Gates. Mae nod eu sefydliad yn glodwiw – cael gwared ar polio a malaria o bob rhan o’r byd.

Diolch yn rhannol i Gates (ac eraill) mae tua 2.5 biliwn o blant wedi’u brechu yn erbyn yr afiechydon gan ostwng achosion o polio o 99.9%.

Ond, mae rhai yn yr Unol Daleithiau wedi eu beirniadu, gan ddweud bod hyn yn canolbwyntio gormod ar ddatrys problem nad oedd yn broblem i’r gymuned y mae Bill Gates, a Microsoft, yn gweithredu ynddi.

Mae yna, mae’n siŵr, filoedd o brosiectau cymunedol hynod leol a allai fod wedi cael eu cynnal gan hyd yn oed ganran bitw o gyfoeth y Sefydliad, petai’r meini prawf yn fwy hyblyg neu’n cysylltiadau’n well gyda rhwydweithiau dyngarol lleol.

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n ceisio pontio’r ddwy agwedd hon at ddyngarwch.

Ein cryfder ni yw ein bod yn deall anghenion sylfaenol cymunedau ledled Cymru a’n bod ni hefyd yn adeiladu ymwybyddiaeth gynhwysfawr o broblemau’r ‘darlun mawr’ sy’n wynebu’r trydydd sector yng Nghymru ac yn cefnogi grwpiau ac elusennau lleol i’w taclo.

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi cyhoeddi ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch sy’n rhannu ein sgyrsiau gyda mwy na 100 o grwpiau ac elusennau cymunedol ar draws Cymru i ddarganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw a sut y maen nhw’n meddwl y gallwn ni eu cefnogi orau.

Mae’r ymchwil wedi’n helpu i ddeall yn well lle mae’r angen mwyaf, a pha sefydliadau sydd angen rhoddwyr er mwyn gallu goroesi, a bydd yn sylfaen ac yn helpu i ffurfio sut y byddwn ni’n gweithio yn y dyfodol.

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.

News

Gweld y cyfan
Y ddadl am gyllid craidd

Y ddadl am gyllid craidd

Sefydliad Cymunedol Cymru’n ymuno â’r Cynllun Arianwyr Cyflog Byw newydd

Sefydliad Cymunedol Cymru’n ymuno â’r Cynllun Arianwyr Cyflog Byw newydd

Sefydliad Cymunedol Cymru’n croesawu pedwar aelod newydd ar y bwrdd

Sefydliad Cymunedol Cymru’n croesawu pedwar aelod newydd ar y bwrdd

Amser i wrando ar grwpiau cymunedol a’r gefnogaeth sydd ei angen

Amser i wrando ar grwpiau cymunedol a’r gefnogaeth sydd ei angen