Amser i wrando ar grwpiau cymunedol a’r gefnogaeth sydd ei angen

Os cafwyd un peth da o’r flwyddyn ddiflas yma, cryfhau ein hysbryd cymunedol oedd hynny. Prun ai drwy alw ar gymdogion bregus neu redeg neges, rydym ni gyd wedi gweld ailgynnau ar garedigrwydd a gofal o’n cwmpas. Hyn, wrth gwrs, yn atgoffa rhywun o’r da sydd o’n gwmpas ni.

Rydan ni gyd yn rhan o rywbeth llawer mwy na jest bod yn unigolyn.

Rydan ni wedi gweld bod pobl yn gryfach gyda’i gilydd. Gwelwyd hynny drwy’r grwpiau cymunedol sydd wedi bod mor weithgar yn gofalu am bobl mewn angen, ac yn darparu gwasanaethau pwysig.

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru heddiw wedi cyhoeddi adroddiad Yn Uchel ac yn Groch, sy’n rhannu negeseuon gan dros 100 o grwpiau yng Nghymru am sut all y Sefydliad ac arianwyr eraill wella’r gefnogaeth sydd ar gael.

Mae’n neges amserol. Dyw’r grwpiau yma ddim yn cynnal eu hunain yn hudol drwy awyr iach – maen nhw angen cefnogaeth. Ac, yn bwysig, cefnogaeth wedi ei sianelu yn gywir.

Bu tîm y Sefydliad yn siarad a gwrando gyda mwy na 100 o grwpiau ac elusennau – rheini o bob siâp a maint, rhai wedi eu hariannu gan y Sefydliad a rhai ddim. Dro ar ôl tro, clywyd yr un neges – mae angen mwy o ariannu craidd i gefnogi elusennau i fodoli a goroesi, gyda phartneriaethau mwy hirdymor. Mae angen llai o raglenni gyda newid cyson, sydd yn sugno amser ac adnoddau all gael ei ryddhau i helpu pobl.

Wrth gwrs mae elusennau a grwpiau cymunedol ers blynyddoedd wedi bod yn bloeddio mai’r hyn sydd wirioneddol ei angen gan y cyhoedd yw gwasanaethau dibynadwy a saff. Ac eto mae arianwyr yn cael eu cyhuddo weithiau o roi gormod o sylw i’r ‘Peth Newydd Nesaf.’

Heb yr ariannu craidd yma, all grwpiau ddim cynnal eu hunain. Hwn ydi’r arian sydd yn galluogi talu cyflogau, galluogi cynllunio am y dyfodol ac yn sicrhau llywodraethant dda.

Mae rhai i arianwyr fel ni edrych eto ar ariannu craidd, bydd rhaid cymryd sylw o’r negeseuon clir yma.
Drwy rannu’r adroddiad, ar amser sydd mor dyngedfennol â phan mae adnoddau mor brin, ein gobaith yw y bydd yn sbarduno trafodaeth bositif am ddefnyddio arian elusennol yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Hoffwn ddiolch i bawb gymrodd ran yn y sgyrsiau. Roedd pawb yn angerddol am eu hachos ond hefyd am yr angen am newidiadau yn y cylchoedd ariannu.

Heddiw, yn y byd sydd ohoni, allwn ni ddim fforddio i beidio gwrando.

Gallwch lawrlwytho’r adroddiad yma.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu