Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Mae sêr Hollywood a perchnogion Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, a sylfaenydd Redrow, Steve Morgan, wedi ennill Gwobr Dyngarwch Sefydliad Cymunedol Cymru am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau yng Nghymru.

Mae’r gwobrau’n cydnabod ac yn tynnu sylw at waith unigolion sy’n mynd y tu hwnt i’w cymunedau lleol a’u nod yw ysbrydoli ac annog eraill i ddechrau ar eu taith ddyngarol.

Gwnaed y gwobrau i nodi 25ain blwyddyn yr elusen.

Ers eu apwyntio yn Gadeiryddion Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae Rob McElhenney a Ryan Reynolds wedi cefnogi nifer o brosiectau cymunedol yn yr ardal leol. Pan wnaethon nhw gymryd awenau’r clwb yn 2020, fe wnaethon nhw addo gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gymuned leol yn ogystal â’r clwb pêl-droed.

O roi rhodd i elusen sy’n darparu gwyliau carafannau am ddim i deuluoedd na fyddent efallai erioed wedi cael gwyliau o’r blaen oherwydd argyfwng ariannol i ariannu ystafell ymolchi wedi’i haddasu ar gyfer ffan Clwb Pêl-droed Wrecsam, mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn parhau i gefnogi a rhoi yn ôl i ardal Wrecsam.

Dywedodd Ryan Reynolds:

“Hoffwn ddiolch i Sefydliad Cymunedol Cymru am yr anrhydedd hwn. Yn y pen draw, mae rhoi gwobr fel hon i mi a Rob yn hynod o wenieithus a gwych ond mae’n sicr yn pylu o’i gymharu â’r gwaith y mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn ei wneud i gynifer o bobl fwyaf bregus Cymru.”

Ategodd Rob McElhenney y teimladau hyn, gan ddweud:

“Mae derbyn y Wobr Dyngarwch hon yn anrhydedd enfawr, ond mae’n wirioneddol amlwg ei fod yn gwelwi o’i gymharu â’r holl waith y mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn ei wneud ac rydym yn hapus i fod yn rhan o hyn.”

Sefydlodd Steve Morgan, entrepreneur a dyngarwr o Lerpwl, Sefydliad Steve Morgan yn 2001 ac mae wedi rhoi dros £300 miliwn i gefnogi mentrau cymunedol.

Mae Sefydliad Steve Morgan yn cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed ledled Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Glannau Mersi gan helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r rhai mewn angen. Maent wedi gweithio ochr yn ochr â Sefydliad Cymunedol Cymru, gan gefnogi eu cronfa argyfwng costau byw Cymunedau Gyda’n Gilydd gyda £25,000 o arian cyfatebol.

Dywedodd Steve Morgan:

“Mae’n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon gan Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’n wobr arbennig sy’n annisgwyl. Mae ein cronfa yn gwneud gwaith aruthrol yng ngogledd Cymru ac mae wedi gwneud ers blynyddoedd lawer, gan ddosbarthu miliynau o bunnoedd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn unig. Mae hyn i gyd yn cael ei wneud heb edrych i gael ei gydnabod, felly pan gewch chi rywbeth fel hyn, mae’n golygu rhywbeth mewn gwirionedd.”

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Rydym yn falch iawn o gydnabod Ryan Reynolds, Rob McElhenney a Steve Morgan am eu haelioni a’u hymrwymiad anhygoel i gymunedau yng Ngogledd Cymru. Maent hwy, fel ninnau, yn cydnabod rôl ehangach dyngarwch wrth adeiladu a chryfhau cymunedau Cymru.

Mae’r gwobrau dyngarol hyn yn rhan o’n dathliadau pen-blwydd yn 25 oed sydd hefyd yn gweld ail-lansio ein Cronfa i Gymru, sy’n darparu grantiau i sefydliadau ac elusennau lleol, llawr gwlad sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau lleol.

Gobeithiwn y bydd pobl yn cael eu hysbrydoli gan Ryan Reynolds, Rob McElhenney a Steve Morgan i roi yn ôl i’w cymunedau lleol a byddai rhodd i Gronfa i Gymru yn ffordd wych o ddechrau.”

Ers 1999, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi dyfarnu dros £40m mewn grantiau ledled Cymru, gan chwarae rhan allweddol wrth gyfateb dyngarwch â grwpiau cymunedol ac elusennau llawr gwlad sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau lleol.

Mae eu Cronfa i Gymru yn cefnogi sefydliadau cymunedol bach, sy’n cael eu gyrru gan wirfoddolwyr, gyda grantiau rhwng £500 a £2,000 tuag at y meysydd canlynol:

  • Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
  • Adeiladu cymunedau cryfach
  • Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
  • Annog pobl a chymunedau iachach a mwy gweithgar
  • Diogelu treftadaeth a diwylliant

Mae’r gronfa yn cefnogi ystod eang o brosiectau, yn amrywio o grwpiau sy’n darparu gweithgareddau i blant ac oedolion ifanc ag anableddau i ganu er lles i wella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia.

Mae Cronfa i Gymru wedi’i hadeiladu ar yr egwyddor bod dyngarwch ar gyfer pawb, gan groesawu rhoddion o bob maint. I gefnogi Cronfa i Gymru, cliciwch yma.

News

Gweld y cyfan
Gwneud grantiau’n fwy hygyrch gyda Easy Read

Gwneud grantiau’n fwy hygyrch gyda Easy Read

Sefydliad Cymunedol Cymru yn penodi cadeirydd newydd

Sefydliad Cymunedol Cymru yn penodi cadeirydd newydd

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig