Canu ar gyfer lles

Cronfa i Gymru

“Alla i ddim mynegi digon pa mor ddiolchgar ydw i i’r côr am eu cefnogaeth bob wythnos gyda fy mam. Efo ei dementia, mae llawer o bwy y’n ni’n ei hadnabod fel mam wedi cael ei cholli, ond mae ei chlywed hi’n siarad am y côr pan dwi’n galw ac mae gwrando ar recordiadau dwi wedi cael fy anfon o’r grŵp yn wych – mae fel gwybod ei bod dal yno.

Merch aelod o’r côr sy’n dioddef â dementia

Ganwyd Choirs for Good yng nghanol pandemig byd-eang Covid-19. Cafodd ei sefydlu gan grŵp o arweinwyr corau a oedd am ddefnyddio grym canu mewn grŵp i gysylltu a grymuso pobl a chymunedau.

Ganwyd Choirs for Good yng nghanol pandemig byd-eang Covid-19. Cafodd ei sefydlu gan grŵp o arweinwyr corau a oedd am ddefnyddio grym canu mewn grŵp i gysylltu a grymuso pobl a chymunedau.

Dyfarnwyd grant iddynt gan Gronfa i Gymru i dalu am gost offer cerddorol i agor côr wyneb yn wyneb ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Ers cael ei sefydlu, mae’r côr wedi tyfu o ran hyder a phrofiad. Mae’r prosiect wedi helpu unigolion i wella o effeithiau ynysu Covid-19 a darparu amgylchedd diogel lle mae pobl wedi teimlo eu bod yn gallu dychwelyd i ryw fath o ‘normalrwydd’ ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod anodd.

Meddai J.J., sy’n aelod o’r côr:

“Roedd gen i ofn dod draw i gôr gyda phopeth sydd wedi digwydd gan fy mod i wedi cael canser ddwywaith ac yn imiwnoddiffygiant, ond dwi mor falch fy mod i wedi gwneud. Mae wir wedi rhoi rheswm i fi fynd allan o’r tŷ a rhywbeth i edrych ymlaen ato bob wythnos.”

Dywedodd Claire, merch Val, sy’n aelod o’r côr:

“I fi mae’r Côr wedi trawsnewid bywyd Mam a’i theulu agos. Mae wedi magu ei hyder, ar ôl y pandemig, i fynd allan eto, i’r côr a gyda ni am brydau a theithiau. Mae hi’n dod yn fyw pan fyddwn ni’n ymweld a phan fyddwn ni’n gofyn i Alexa chwarae’r caneuon amrywiol mae hi’n eu canu yn y côr, gallwn glywed ei llais yn esgyn gyda llawenydd wrth iddi ymuno â nhw.

Dwi’n gwybod bod ganddi rywbeth i edrych ymlaen ato bob wythnos ac i wisgo lan amdano. Mae’r canu yn cadw ei hymennydd yn actif ac mae cymysgu â phobl eraill yn sicrhau ei bod yn cadw’r sgiliau hynny’n fyw, sy’n dod yn fwy heriol wrth i’w chof barhau i ddirywio.

Mae’r prosiect yn dod â chymorth a phleser anfesuradwy i Mam ac dwi’n siŵr yn helpu i’w galluogi i reoli ei dementia a byw’n annibynnol, gobeithio am gyfnod hir i ddod.”

 

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies