Cefnogi pobl ifanc ysbrydoledig i wireddu breuddwydion

Yr wythnos diwethaf cefais y fraint o wylio merch ifanc o Gymru yn hudo cynulleidfa o dros 500 o bobl gyda’i stori – gan arddangos yn berffaith mor werthfawr yw cefnogi pobl ifanc i wireddu eu breuddwydion.

Roedd Catlin Nedahl yng nghinio Dydd Gŵyl Ddewi yn neuadd fawreddog y Guildhall yn Llundain – ac yno i siarad am ei bywyd a’r gefnogaeth mae wedi cael gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cantores o Gaerffili ydi Caitlin sydd yn ddiweddar wedi llwyddo i sicrhau grant gan Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain. Bydd y gefnogaeth hon yn ei galluogi i gymryd y cyfle i fynd ar gwrs Cerddoriaeth Fasnachol ym Mhrifysgol Belmont, Nashville.

O’i geiriau cyntaf, distawodd y stafell oedd funudau ynghynt yn fwrlwm o sŵn. Roedd distawrwydd perffaith wrth iddi rannu ei stori am ddioddef amseroedd drwg yn yr ysgol, a rhoi hynny i’r ochr i ddilyn ei breuddwyd i ganu. Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi gallu rhoi cynnig o gymorth iddi ar y ffordd.
Heb nodiadau, ac yn siarad o’r galon, roedd Caitlin wedi cysylltu â phob un yn y stafell fawr. Cysylltiad cryf fydd y cael ei gofio. Roedd yr effaith yn glir i weld wedyn, wrth i nifer fawr o rieni yn stafell ddod fyny ati, gan rannu straeon tebyg am eu plant eu hunain. Roedd amryw ohonynt yn eu dagrau. Testament yn wir o effaith anhygoel stori Caitlin.

Ar y noson hefyd clywsom gan Dion Lloyd, a rannodd ei stori am sut bu ychydig o gymorth gan Sefydliad Cymunedol Cymru ei helpu i’r pwynt ble mae o nawr wedi sicrhau rôl actio ar y teledu fel Wayne Rooney yn Rooney v Vardy a hefyd yn y rhaglen Channel 4 A Light In the Hall.

Byddwn ni wrth gwrs yn gobeithio bod straeon fel hyn yn ysbrydoli mwy o gefnogaeth fel bod mwy o bobl ifanc fel Caitlin a Dion yn gwireddu breuddwydion yn y dyfodol. Roedd yn noson wych ac mae ein diolch yn fawr i bawb wnaeth gefnogi ar y noson. Diolch o galon!

Bu’r Cinio yn glo i ddiwrnod prysur yn Llundain i dîm y Sefydliad gan i ni hefyd gynnal cyfarfod am ariannu elusennol yng Nghymru yn swyddfeydd ein partneriaid Brewin Dolphin.

Roedd fy nghyd-weithiwr Andrea Powell yn rhannu darganfyddiadau ein hadroddiad newydd ar dirwedd ariannu Ymddiriedaethau a Sefydliadau yng Nghymru – gan gynnwys rhai o’r sialensiau sy’n codi o achos y niferoedd uchel o elusennau digofrestredig.

Mae Cymru yn wynebu sialens enfawr o ddenu ariannu teg gan Ymddiriedaethau a Sefydliadau – i fod yn blaen, dydyn ni ddim yn cael ein siâr deg, er ein bod yn y wlad dlotaf yn y DU.

Yn y cyfarfod, gwelsom angerdd am gyd-weithio rhwng y sector ac arianwyr – mae angen nawr i symud o siarad am y trafferthion i gymryd camau ymlaen. Rydan ni yn edrych ymlaen at fod yn rhan o hyn.

Byddwn ni yn Sefydliad Cymunedol Cymru yn edrych ymlaen at barhau efo’r gwaith gyda phartneriaid yn yr wythnosau i ddod – croeso i rywun all help i ddod i gysylltiad â ni.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…