Symud o hostel digartref i fyd busnes

CAERedigrwydd

“Mae Tom wedi bod yn gwirfoddoli’n rhagweithiol ar brosiect adeiladu/garddio ers iddo fod yn rhan o’r prosiect ac mae wedi bod yn ymrwymedig iawn i fynychu sawl gwaith yr wythnos dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae bellach yn barod i fynd ati i ddechrau ei fusnes ei hun ar raddfa fach ac adeiladu hwn i fyny eto.”

Aeth Tom* yn ddigartref yn 2014 ar ôl i’w berthynas â’i bartner chwalu. Roedd yn byw mewn hostel a bellach mae’n byw yn un o Dai â Chymorth Huggard. Dyfarnwyd grant o £750 drwy Huggard i brynu’r cyfarpar roedd ei angen arno i’w helpu i ddechrau ei fusnes adeiladu eto.

Cyn mynd yn ddigartref, roedd Tom yn rhedeg cwmni adeiladu sefydledig yr oedd wedi’i ddatblygu o ddim byd. Cafodd y newid yn ei amgylchiadau personol effaith andwyol ar ei iechyd a’i lesiant cyffredinol a’i hunan-hyder. Chwalodd ei fusnes ac fe’i cafodd ei hun yn dibynnu ar fudd-daliadau salwch a gwasanaethau digartrefedd rheng flaen er mwyn cefnogi ei hun.

Mae’r grant wedi helpu Tom i brynu cyfarpar er mwyn ei helpu i ddechrau ei fusnes yn y gymuned leol. Bydd hyn yn ei helpu i symud i ffwrdd o ddibynnu ar fudd-daliadau a dod yn fwy annibynnol yn ariannol.

Mae ailadeiladu ei fusnes wedi rhoi ymdeimlad gwych o bwrpas iddo ac mae’n gobeithio rhoi yn ôl i’r gymuned leol drwy gyflogi pobl yn yr ardal leol.

*Mae’r enw wedi’i newid

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies