Gyda’ch cefnogaeth, mae’r freuddwyd ffotograffiaeth yn dal yn fyw

Cronfa Addysg Plwyf Rudbaxton

Dyfarnwyd £ 1,000 i ffotograffydd brwd sydd brwd ac yn awyddus i ddilyn gyrfa ym maes ffotograffiaeth yn y dyfodol. Ei brif nod yw dod yn ffimliwr ar gyfer National Geographic. Dyfarnwyd £1,000 iddo er mwyn helpu gyda chostau astudio cymhwyster Safon Uwch mewn Ffotograffiaeth yn ogystal â chyfrannu at y costau sy’n gysylltiedig â’r cymwysterau Safon Uwch eraill megis prynu gwerslyfrau a chymryd rhan mewn gweithgareddau a theithiau perthnasol.

“Mae’r grant hwn wedi fy ngalluogi i brynu’r cyfarpar sylfaenol sydd ei angen arnaf er mwyn astudio’r cyrsiau o’m dewis, sef ffotograffiaeth a’r cyfryngau. Rwy’n defnyddio’r monitor i olygu fy nelweddau, y papur lluniau er mwyn cynhyrchu printiau yn yr ystafell dywyll ac mae bag y camera a’r cit glanhau wedi bod yn hanfodol wrth amddiffyn a chynnal fy nghamera.

Rwy’n cyfeirio at y llyfrau ffotograffiaeth yn aml er mwyn ehangu fy ngwybodaeth. Gyda’r offer hwn, rwyf eisoes wedi cwblhau aseiniad ffotograffiaeth ddogfennol ac aseiniad prosiect yn yr ystafell dywyll. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar fy nhrydydd aseiniad, sef defnyddio ffilm. Yn fy nhymor cyntaf, rwyf wedi gallu cynhyrchu lluniau sydd wedi ennyn ymateb cadarnhaol iawn gan fy nhiwtor.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i ddefnyddio fy nghamera a dysgu mwy am ffotograffiaeth. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar fideo cerddoriaeth ar gyfer astudiaethau’r cyfryngau a bydd cael camera DSLR yn fy ngalluogi i greu fideo o ansawdd gwell.

Er ei bod yn gynnar yn y tymor, mae’r cyfarpar rwyf wedi’i brynu gyda’r grant wedi helpu fy nghynnydd yn fawr. Rwyf wir yn gwerthfawrogi cael y cyfarpar gwych hwn sy’n rhoi mantais i mi dros fy nghyd-fyfyrwyr nad ydynt wedi gallu fforddio prynu’r eitemau hyn. Rwy’n bwriadu gwneud y mwyaf o’r fantais hon wrth i mi ddatblygu drwy’r cwrs. Yn syml, heb y cyfarpar roeddwn yn gallu prynu gyda’r grant, faswn i’n gallu cynhyrchu lluniau o ansawdd.”

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies