Cylch chwarae yn darganfod addysg yn yr ardd

Cronfa Gwaddol Cymuned Wrecsam

“Gall y plant weld planhigion, llysiau a blodau’n tyfu, sy’n rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol. Mae’r plant wrth eu bodd allan yn yr awyr agored ac mae hwn yn ddatblygiad dysgu da iddynt.”

Mae Cylch Chwarae Bellevue yn darparu chwarae datblygu diogel ac ysgogol drwy’r cwricwlwm cenedlaethol i blant rhwng 2 a 4 oed. Dyfarnodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru £750 iddynt gyllido prosiect plannu yn yr awyr agored ar gyfer y plant.

Mae dysgu am y broses o sut mae planhigyn yn tyfu bellach yn un o ofynion addysg cyn-ysgol, felly roedd angen i Gylch Chwarae Bellevue ddarparu prosiect a oedd yn galluogi’r plant i ddatblygu eu dysgu yn y maes hwn.

Rhoddodd Cyngor Wrecsam ardal fach ychwanegol iddynt yn ei barc lleol ar gyfer prosiect, felly defnyddiodd y Cylch ein cyllid i brynu cyfarparu, pridd, hadau a phlanhigion fel y gall y plant balu’r pridd, plannu’r hadau a gofalu am y planhigion a monitro eu twf.

Mae’r plant wir yn mwynhau’r gweithgareddau garddio a dysgu am dwf y planhigion a’r llysiau ac mae’r cyngor wrth ei fodd â’r hyn y mae Cylch Chwarae Bellevue wedi’i wneud yn yr ardal blannu newydd yn y parc ac mae’n awyddus i gefnogi mwy o fentrau yn yr awyr agored yn y dyfodol.

Stories

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies

Gwella bywydau pobl ifanc drwy weithgaredd awyr agored

Gwella bywydau pobl ifanc drwy weithgaredd awyr agored

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Lle i fod yn greadigol a chwrdd â phobl newydd

Lle i fod yn greadigol a chwrdd â phobl newydd