Dathlu 20 mlynedd o Sefydliad Cymunedol Cymru

Dathlu 20 mlynedd o Sefydliad Cymunedol Cymru

Daeth grwpiau cymunedol, rhoddwyr a chefnogwr at ei gilydd i ddathlu pen-blwydd Sefydliad Cymunedol Cymru’n 20 oed ar Ystâd Brynbella, Sir Ddinbych, cartref y dyn busnes a’r dyngarwr, Peter Neumark.

Peter Newmark oedd yn gwesteia’r digwyddiad arbennig hwn a oedd yn arddangos y bobl a’r cymunedau y mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n gweithio ac yn cysylltu â nhw ac yn dangos y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud i gymunedau ledled Cymru.

Roedd y digwyddiad hefyd yn nodi lansio Cyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru – rhwydwaith ddethol o unigolion a sefydliadau o’r un feddylfryd sy’n helpu i newid bywydau yng Nghymru.

Soniodd Fiona Bowen sut yr helpodd grant Sefydliad Cymunedol Cymru hi i wireddu ei breuddwyd o gymhwyso’n gyfreithiwr a rhannodd Claire Sullivan o Wasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWCIS) storiau’n ybrydoli ynghylch rhan mor hanfodol y mae’r arian y maen nhw’n ei dderbyn yn ei chwarae mewn datblygu cyfleoedd i hyfforddi eu gwirfoddolwyr.

Yno’n dathlu hefyd yn dathlu oedd Côr Cymunedol Dinbych sydd wedi cael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru i helpu i ddenu aelodau newydd gan gynnwys gofalwyr ifanc i’w helpu i wella eu hyder a’u llesiant.

Roedd y pen-blwydd hefyd yn dathlu’r cyntaf o ddau ddigwyddiadau a fydd yn anrhydeddu ac yn cofnodi’r 20 mlynedd y bu Sefydliad Cymunedol Cymru yn ysbrydoli pobl i roi, gan helpu cymunedau Cymru i ffynnu a newid pobl gyda’i gilydd.

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Yn ein 20 mlynedd cyntaf, bu’r tîm yn Sefydliad Cymunedol Cymru’n gweithio gyda rhoddwyr i fuddsoddi mwy na £25 miliwn mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hyn wedi galluogi pobl i ddod â rhai prosiectau ffantastig at ei gilydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w pentrefi neu eu trefi.

Yn y dyddiau hyn, mae datblygu rhoddi dyngarol yn bwysicach nag erioed i ddatblygu cymunedau cryfach ac i helpu pobl i ddod at ei gilydd i gyflawni newid.

Heddiw, rydyn ni’n dathlu’r llwyddiant ffantastig hwn ac yn edrych ymlaen at weld ein cynlluniau cyffrous yn dal i dyfu ac yn gwneud hyd yn oed fwy o wahaniaeth i bobl a chymunedau yng Nghymru.”

Meddai Peter Neumark, gŵr busnes a dyngarwr sy’n byw yng ngogledd Cymru:

“Mae’n debyg nad yw gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru erioed wedi bod yn fwy perthnasol nac yn bwysicach nag yw heddiw.

Mae’n hollol drwyadl wrth gyflawni ei ddyletswydd dyladwy a’i ymchwil er mwyn gwneud yn siŵr mai dim ond sefydliadau ac elusennau sy’n cael eu rhedeg yn dda ac sy’n gallu dangos canlyniadau clir fydd yn derbyn arian.

Mae eu record dros 20 mlynedd yn wirioneddol hynod ac mae’n rym er gwell yng Nghymru.”

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu