Dros £5.5 miliwn o arian Covid-19 yn cael ei rannu gan Sefydliad Cymunedol Cymru

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi rhannu mwy na £5.5 miliwn o arian i grwpiau ledled Cymru i’w helpu i gefnogi eu cymunedau lleol trwy’r pandemig Coronafeirws.

Mae maint y gefnogaeth argyfwng i’r trydydd sector yng Nghymru’n cael ei ddatgelu yn adroddiad Sefydliad Cymunedol Cymru ‘Ymdopi gyda Covid-19’ sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Fel elusen annibynnol yng Nghymru, mae Sefydliad Cymunedol Cymru mewn lle da i helpu cymunedau i ymateb i argyfyngau lleol.  Er ei fod wedi hen arfer gwneud hynny o’r blaen mewn achosion lleol, dyma’r tro cyntaf iddo orfod gweithredu ar y fath raddfa er mwyn dod â chefnogaeth hanfodol i bobl o bob rhan o Gymru.

Lansiwyd Cronfa Gwytnwch Coronafeirws Cymru gydag £200,000 yn fuan ar ôl y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf.  Diolch i roddion hael gan fusnesau a rhoddwr lleol, ac i bartneriaeth wych gyda’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol, tyfodd y gronfa i £1 miliwn mewn ychydig dros bythefnos.

Er gwaethaf heriau’r cyfnodau clo a gweithio o gartref, roedd tîm Sefydliad Cymunedol Cymru’n gallu symud yn gyflym fel bod arian ar gael i grwpiau ledled Cymru a oedd yn addasu i gefnogi’r bobl fwyaf bregus yn eu cymunedau.

Mae’r adroddiad Ymdopi gyda Covid-19 yn rhoi ciplun o’r gwaith rhyfeddol y mae sefydliadau a grwpiau lleol wedi’i wneud i gefnogi eu cymunedau drwy’r pandemig hwn.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar y cyfnod rhwng Mawrth 2020 a Rhagfyr 2020 ac yn dangos sut yr oedd Sefydliad Cymunedol Cymru’n ymateb i’r heriau a ddaeth i ganlyn y pandemig a storïau twymgalon y rhai oedd wedi cael help.

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Mae ein hadroddiad ‘Ymdopi gyda Covid-19’ yn casglu’r hyn rydyn ni wedi’i weld ac wedi’i ddysgu drwy’r pandemig hyd yma.  Mae’n stori o ysbryd dynol gwydn a chryf, cryfder gwirioneddol yma yng Nghymru.

Rydyn ni’n falch iawn o’r ffordd rydyn ni wedi ymateb i’r pandemig hwn, gan symud yn gyflym i gael grantiau i grwpiau ledled Cymru oedd yn addasu i gyfarfod ag anghenion gwahanol eu cymunedau yn wyneb Covid-19.

Gydol y cyfnod hwn, rydyn ni wedi dysgu llawer, nid yn unig am wydnwch cymunedau yng Nghymru, ond hefyd am ein rhan ni fel ariannwr a sut y gallwn gael yr effaith fwyaf.

Yn anffodus, mae’r pandemig yn dal yma a’r dyfodol yn ansicr, felly, fe fyddwn ni’n dal i gefnogi pobl ledled Cymru drwy’r cyfnod anodd hwn.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adroddiad yn annog pobl eraill i chwarae eu rhan i wneud yn siŵr y bydd cymunedau mwyaf bregus Cymru’n yn dal i dderbyn yr help y maen nhw gymaint o’i angen.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…