‘Eich Llais Eich Dewis’ yn helpu grwpiau cymunedol ar draws Gwent i gael £75,000 mewn grantiau
Daeth grwpiau cymunedol o bob rhan o Went i Abertyleri ddydd Sadwrn 29 Chwefror i fidio am ran o bot grantiau gwerth tua £75,000 gan Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.
Partneriaeth yw’r digwyddiad ‘Eich Llais Eich Dewis’ 2020 rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Sefydliad Cymunedol Cymru i rannu grantiau o hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent.
Roedd gan y digwyddiad ffordd newydd sbon o roi grantiau sy’n galluogi pobl leol i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol a chefnogi prosiectau lleol.
Daeth 26 o grwpiau i gystadlu yn y digwyddiad, pob un yn cael dau funud i sôn am eu prosiect, a’r grwpiau eraill yn sgorio pob cyflwyniad. Roedd y prosiectau a oedd yn cael eu cyfrif yn taclo’r problemau pennaf yn derbyn rhan o’r pot grantiau £75,000. Oherwydd y ffordd yr oedd y digwyddiad yn cael ei redeg, roedd y grwpiau’n gallu cyflwyno’u storïau yn eu ffordd nhw eu hunain a hefyd rannu eu hegni ac ymrwymiad at wella bywydau yng Ngwent.
Eleni dyfarnwyd y grant cefnogi cynaliadwyedd 3 blynedd i Gymorth i Ferched Cyfannol. Roedd y grwpiau aflwyddiannus hefyd yn cael £500 hefyd rhag iddyn nhw fynd oddi yno’n waglaw.
Y dathliad hwn o gyflwyno grantiau yw uchafbwynt calendr Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ac roedd yn ben llanw blwyddyn o godi arian gan Uchel Siryf presennol Gwent, Claire Clancy. Daeth cyfraniad sylweddol i’r pot grantiau hefyd oddi wrth Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert.
Mae Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yn gweithio’n galed i adeiladu cymunedau diogelach yng Ngwent trwy gefnogi prosiectau sy’n mentora ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni’u potensial. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddathlu’r gwaith caled ac ymroddiad y gwirfoddolwyr a’r grwpiau cymunedol sy’n gwneud cymaint i wella bywydau pobl Gwent.
Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru wrth sôn am y digwyddiad:
“Rydym yn credu fod Eich Llais Eich Dewis yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gyflwyno grantiau’n agored ac yn dryloyw ac mae’n nerthu pobl leol i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol.
Un o’r pethau gwych am y digwyddiad hwn yw ei fod yn rhoi llwyfan i grwpiau cymunedol i rannu’u storïau, yn aml trwy eiriau’r bobl sy’n elwa’n uniongyrchol o’r prosiectau. Mae hefyd yn eu helpu i gyfarfod â grwpiau sy’n gwneud gwaith tebyg, a gobeithio, yn arwain at rannu syniadau a magu partneriaethau newydd.
Rydym eisiau diolch i bawb a gymerodd rhan am eu brwdfrydedd ac egni wrth iddyn nhw rannu’u storïau gyda ni heddiw.”
Meddai Claire Clancy, Uchel Siryf Gwent 2019 – 20;
“Mae Eich Llais Eich Dewis yn ddigwyddiad unigryw yn arddangos gwaith gwych grwpiau cymunedol ledled Gwent, a doedd eleni ddim yn eithriad.
Fel Uchel Siryf Gwent, mae’n bleser gwestia’r digwyddiad hwn sy’n dod â phrosiectau cymunedol amrywiol at ei gilydd o dan un to – pob un yn rhannu’r nod cyffredin o nerthu cymunedau lleol yng Ngwent.
Hoffwn longyfarch y grwpiau a lwyddodd i gael grant ac rwy’n cynnig fy niolchiadau i bawb a oedd yn bresennol ac a rannodd eu storïau egnïol, emosiynol ac ysbrydoledig.
Wrth i ni ddathlu deng mlynedd o Eich Llais Eich Dewis, rydym yn gobeithio parhau’r traddodiad balch o gynnig llwyfan i gyflwyno grantiau’n dryloyw i helpu cefnogi grwpiau cymunedol yng Ngwent am sawl blwyddyn eto i ddod.”
Y sefydliadau llwyddiannus yn nigwyddiad 2020 oedd:
• Band Tref Blaenafon
• Prosiect Adeiladu Pontydd
• Clwb Noddfa
• Cymorth i Ferched Cyfannol
• Dance Blast
• Cyfeillion Gwarchodfa Natur Leol Henllys
• G – Expressions
• HCT (Help Caring Team [Tîm Gofal Cymorth])
• Prosiect Celf Islwyn
• Made in Tredegar
• Ministry of Life
• Jame Masjid Canol Casnewydd
• Grŵp Ffocws Rhieni
• Ready Steady Go!
• RecRock
• Shaftesbury Youf Gang
• Hwb Torfaen
Mae rhagor am Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yma.