Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru Powys
I gyd, a Powys
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Nod Cronfa Degwm Powys yw darparu cymorth i grwpiau at ddibenion cymdeithasol, hamdden a dibenion elusennol eraill megis:
- adfer Eglwysi, Capeli a neuaddau cymunedol/neuaddau pentref mewn sir
- annog y celfyddydau
- gweithgareddau cymdeithasol a hamdden
- diogelu adeiladau hanesyddol
- helpu sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael ag anfantais sy’n gysylltiedig â phobl sydd ar incwm isel neu’r rhieni sy’n sâl neu’n anabl
Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr adroddiad hwn i’n helpu i ffurfio Cronfa Degwm Powys a dangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu dibenion craidd a’n bod ni eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau yn y tymor hirach.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir. Mae Cronfa Degwm Powys cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn, hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal ati i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn neu eitemau cyfalaf bychain.
I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano.
Y grantiau sydd ar gael
- Gall elusennau wneud cais am grantiau rhwng £1,000 a £5,000
- Lle y ceir achos eithriadol ar gyfer cymorth, gellir dyfarnu grantiau o hyd at £10,000
Gellir dyfarnu grantiau cyfalaf er mwyn helpu sefydliadau gyda’r gwaith o brynu celfi ar gyfer adeiladau a’u cynnal a’u cadw.
Dyfernir grantiau refeniw er mwyn cefnogi sefydliadau gyda phrosiectau a gweithgareddau er budd trigolion Powys.
Pwy all wneud cais?
- Grwpiau gyda chyfansoddiad/Cymdeithas Anghorfforedig
- Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO)
- Cwmni cyfyngedig dan warrant (nid er mwyn elw preifat)
- Cwmnïau Budd Cymunedol (CIC)
- Mentrau Cymdeithasol
- Sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Sir Powys a/neu brosiectau neu weithgareddau sydd wedi’u cynllunio’n benodol i wasanaethu trigolion Sir Powys
- Eglwysi a chapeli
Sut i wneud cais?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Roeddwn yn teimlo’n ddiogel yn gwybod ei bod hi yma i ni
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: