Gweithio gydag ymddiriedolwyr elusen

Mae miloedd o ymddiriedolaethau elusennol bach ar hyd a lled Cymru. Cafodd nifer sylweddol o’r rhain eu sefydlu flynyddoedd lawer yn ôl, ac efallai y bydd angen diweddaru eu diben gwreiddiol.

Gall fod yn broblem ddifrifol i ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am gronfa ond na allant gyflawni ei diben elusennol a’u bod hefyd yn ymwybodol y gallai bobl leol fod yn cael cymaint mwy o fudd ohoni.

Dyma ble y gallwn helpu.

Sut y byddwn yn gweithio gyda chi

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae mwy na 3,400 o gronfeydd ymddiriedolaeth yn y DU wedi cael eu trosglwyddo i’w sefydliad cymunedol lleol.

Rydym yn rheolwyr cyllid elusennol arbenigol a gallwn gynghori ar y ffordd orau o drosglwyddo a sicrhau’r defnydd o’r gronfa.

Mae gan ein hymddiriedolwyr y sgiliau a’r profiad i reoli’r gronfa, ei thyfu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol tra hefyd yn sicrhau ei bod o fudd i gymunedau heddiw.

Rydym bellach yn gweithio gydag ymddiriedolwyr cronfeydd ymddiriedolaeth ymarferol sy’n awyddus i gynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd, er mwyn darparu llywodraethu cryfach a rhoi grantiau mwy effeithiol.

Mae’r Comisiwn Elusennau yn annog pob elusen i ofyn iddi ei hun p’un a ddylai weithio gyda’r Sefydliadau Cymunedol fel dull amgen o weithio, yn enwedig os yw’n gallu ateb yn gadarnhaol i un neu fwy o’r cwestiynau canlynol:

  • Rydym yn ei chael hi’n anodd nodi buddiolwyr
  • Ni allwn wario incwm yr elusen
  • Rydym yn cael ein hun yn rhoi arian i’r un bobl neu grwpiau bob blwyddyn
  • Rydym yn ei chael hi’n anodd denu ymddiriedolwyr
  • Hoffem fod yn rhan o’r ffordd y caiff yr arian ei wario ond nid ydym am gael y cyfrifoldeb cyfreithiol o fod yn ymddiriedolwr
  • Mae’r gwaith o weinyddu’r elusen a’i buddsoddiad yn mynd yn feichus neu’n anghymesur i lefel y cyllid
  • Hoffem wybod mwy am y materion a’r cyfleoedd lleol a phwy arall sy’n ariannu beth
Gweithio gydag ymddiriedolwyr elusen

Enghraifft o bŵer ein partneriaeth

Darllenwch am ein gwaith gyda Cyngor Sir y Fflint.

Darllen mwy

Cronfeydd Asiantaethau

Os yw eich elusen yn buddsoddi cyllid elusennol, a oes gennych y sgiliau llywodraethu cywir ar waith er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr enillion gorau?

Cronfeydd Asiantaethau
Gweithio gydag ymddiriedolwyr elusen