Helpu cymunedau i lywio’r argyfwng costau byw

Dim ond yr wythnos diwethaf roedden ni’n cael sgwrs yn y swyddfa ynglŷn â phryd oedden ni’n mynd i droi’r gwres canolog adref. Roedd rhai yn ceisio mynd trwy fis Hydref cyn troi’r thermostat i fyny tra bod eraill eisiau dal allan tan fis Rhagfyr, gan obeithio aros yn gynnes gyda chymorth blancedi gwlanog a photeli dŵr poeth.

Mae fy mil gwres fel arfer yn fân bryder, ond, o’i ychwanegu at gyfraddau morgais cynyddol, biliau bwyd (yn enwedig bwydo 2 fachgyn llwglyd yn barhaol), mae’n teimlo’n llai mân ac yn fy atgoffa o’r gost gynyddol o fodoli ar hyn o bryd.

Mae’r argyfwng costau byw yn rhywbeth fydd yn cael ei deimlo gan bawb yn y wlad, ond y bobl dlotaf yn ein cymdeithas fydd yn cael ei tharo galetaf, nawr ac yn y dyfodol. Mae rhai sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd talu eu biliau, yn ymweld â banciau bwyd, ac wedi gweld toriadau yn y gwasanaethau maen nhw bellach yn ddibynnu arnyn nhw ers y pandemig.

Cefais fy atgoffa o’r dyfyniadyma gan Barbara Ehrenreich o’i llyfr Nickel a Dimed: On (Not) Getting by in America:

Pan fydd rhywun yn gweithio am lai o gyflog nag y gall fyw arno — pan fydd, er enghraifft, yn mynd yn llwglyd er mwyn i chi allu bwyta’n rhatach ac yn gyfleus — yna mae hi wedi gwneud aberth mawr i chi, mae hi wedi gwneud rhodd o ryw ran o’i galluoedd, ei hiechyd, a’i bywyd. Mae’r ‘tlodi gweithiol’ yma mewn gwirionedd yn creu dyngarwyr mawr yn ein cymdeithas. Maen nhw’n esgeuluso eu plant eu hunain fel y bydd plant eraill yn derbyn gofal; maent yn byw mewn tai is-safonol fel y bydd cartrefi eraill yn sgleiniog ac yn berffaith; maent yn dioddef preifateiddio fel y bydd chwyddiant yn isel a phrisiau stoc yn uchel. Mae bod yn aelod o’r ‘tlodi gweithiol’ yma yn creu rhoddwr dienw, cymwynaswr di-enw, i bawb arall.

Yn anffodus does gen i ddim yr atebion i ddatrys y drychineb economaidd sy’n ymddangos fel petai ar y gorwel, ond rydym ni yn Sefydliad Cymunedol Cymru yn gwneud ein gorau i gefnogi sefydliadau sy’n gweithio gyda’r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru – y ‘tlodion sy’n gweithio’ a sy’n aml yn cael eu hanwybyddu.

Rydym yn darparu grantiau aml-flwyddyn, a chyllid i dalu am gostau craidd, fel y gall grwpiau llawr gwlad sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i’r rhai sydd â’r angen mwyaf wneud cais i ni heb boeni am greu syniadau am geisiadau cyllido a chanolbwyntio ar yr hyn maen nhw’n ei wneud orau – helpu eu cymuned leol.

Os hoffech chi ddarganfod mwy am sut gallwch chi gefnogi sefydliadau llawr gwlad ar draws Cymru yn ystod y cyfnod anodd hwn, cysylltwch â ni.

 

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…