Mae cymryd camau ar y cyd i wella dealltwriaeth yn gweithio

Wrth i ni symud i ffwrdd oddi wrth heriau’r 15 mis diwethaf, a dechrau rhoi’r pandemig y tu ôl i ni, mae’n bryd i ni ddechrau meddwl am y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o wir am y trydydd sector.   Fis Medi 2020, cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ei adroddiad Yn Uchel ac yn Groch. Wrth i ni syumd yn ôl at ‘fusnes fel arfer’ rydyn ni’n adolygu’r meini prawf ar gyfer ein cronfeydd i wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu; cynnig arian craidd ar gyfer costau craidd sefydliadau a rhoi cyfle i fwy o grwpiau gael arian dros dair blynedd.   Mae’n bwysig i ni fod grwpiau’n gwybod ein bod ni wedi gwrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i’w ddweud a’n bod ni’n ymateb i hynny.

Darn arall allweddol o wybodaeth a ddaeth o’r adroddiad Yn Uchel ac yn Groch oedd y diffyg gwybodaeth yn nhrydydd sector Cymru o’r amrywiaeth o arianwyr sydd ar gael iddyn nhw y tu hwnt i ffiniau Cymru.

Mae ymddiriedolaethau a sefydliadau yn nodwedd enfawr y byd elusennol yn y DU. Yn ôl y Gymdeithas Sefydliadau Elusennol, mae yna fwy na 10,000 o ymddiriedolaethau a sefydliadau yng ngwledydd Prydain.

Gydag arian cyhoeddus ar gyfer y sector gwirfoddol yn dan wasgfa gynyddol, mae’n rhaid i sefydliadau nid er elw allu deall pwy sy’n rhoddi grantiau, ac o dan ba amodau, yn enwedig yn dilyn pandemig pan fydd grwpiau wedi bod yn defnyddio eu harian wrth gefn i dalu am y cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau.

Ar ôl casglu’r wybodaeth, rydyn ni’n partneru gyda Sefydliad Pears i ddatblygu prosiect ‘Dysgu Gweithredol’.

Fel rhan o’r prosiect, byddwn yn gweithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau yn y trydydd sector yng Nghymru, o elusennau i grwpiau gwirfoddol, ac o wahanol faint, sy’n talu sylw i amrywiaeth o broblemau ar draws Cymru. Trwy’r gwaith hwn, rydyn ni’n gobeithio dod i ddeall yn well y broses sydd ei hangen i ddechrau partneriaeth lwyddiannus rhwng y rhai sy’n cael grantiau a’r rhai sy’n ariannu’r grantiau a hefyd nodi rhai ymarferion da y gellid eu rhannu gydag eraill.

Nid eich rhaglen grant arferol yw Cronfa Dysgu Gweithredol Pears ond prosiect ar sail ymchwil a fydd yn cael cefnogaeth gan ymchwilydd annibynnol gydol yr amser.   Rydyn ni wedi penodi Wavehill i gydweithio gyda ni ar yr ymchwil hwn.

Gall grwpiau ymgeisio i fod yn un o 25 o sefydliadau a fydd yn cael £2,000 i ddatgloi gallu yn eu sefydliadau yn gyfnewid am gymryd rhan mewn rhaglen wedi’i chynllunio o ymchwil ac o ddysgu gweithredol.

Bydd y grwpiau y mae eu ceisiadau’n llwyddiannus i gymryd rhan yn y ‘dysgu gweithredol’ yn gweithio gyda Swyddog Prosiect yn Sefydliad Cymunedol Cymru. Bydd y Swyddog Prosiect yn darparu cefnogaeth ac arweiniad 1:1 ac yn gweithio gyda nhw i nodi 3 – 5 o arianwyr o’r tu allan i Gymru sy’n cydweddu’n dda gyda’r hyn mae eich gwaith yn canolbwyntio arno.

Bydd grwpiau’n elwa drwy gael

  • mwy o hyder yn eich gallu i gyflwyno hanes clir am eich gwaith gydag arianwyr
  • gwell dealltwriaeth o’r broses grantiau o safbwynt arianwyr
  • dysgu mwy am ba feysydd y gallai eich sefydliad eu datblygu a ble i gael cefnogaeth.

Rydyn ni’n cynnal pedwar gweithdy i helpu grwpiau i ddod i ddeall y prosiect hwn yn well ac i ateb unrhyw gwestiynau ynghylch y cyfle diddorol hwn. Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn archebu lle mewn gweithdy cyn cyflwyno cais.

Mae hwn yn ddarn cyffrous o waith ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn dangos rhai meysydd cyffredin, yn amlygu rhai heriau y bydd y sector yn eu hwynebu ac, yn bwysicach, yn ein helpu ni i ddeall lle mae yna gyfloedd i gydweithio, gweithio mewn partneriaeth a datblygu caderndid a chynaliadwyedd drwy wella gwybodaeth a chysylltiadau.

Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn gryfhau cymunedau Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a newid bywydau er gwell.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

 

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…