Mae pawb angen cymdogion da

 

Rwy’n ddigon hen i gofio pan oedd y rhaglen deledu, Neighbours, yn ei hanterth. Kylie Minogue, cymeriad hoffus o’r enw Harold Bishop ac, wrth gwrs, y dôn agoriadol gofiadwy ‘And that’s why good neighbours become good friends.’

Dyna oedd yn mynd rownd a rownd yn fy mhen y bore yma wrth i mi ddarllen adroddiad newydd sy’n trafod sut y mae’r rhai sy’n ariannu’n cydweithio (neu ddim) a goblygiadau hynni i gymunedau lleol.

The Strength of Weak yw’r adroddiad, gwaith Tony Chapman, cyfarwyddwr polisi ac ymarfer yng Ngholeg St Chad, Prifysgol Durham. Er y daw’r rhan fwyaf o’r deunydd o Ogledd-ddwyrain Lloegr mae llawer iawn o’r adroddiad i’w weld i mi yn berthnasol i Gymru hefyd.

Un o’i brif ganfyddiadau yw y dylai ymddiriedolaethau a sefydliadau weithio’n ‘gymdogol’ yn hytrach na thrwy strategaethau ffurfiol, integredig.

Yn ôl y penawdau yn y wasg fasnachol, mae sefydliadau elusennol yn ‘trysori’u hannibyniaeth’ ond dydyn nhw ddim yn cymryd penderfyniadau ar eu pen eu hunain. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar astudiaeth o 25 o ymddiriedolaethau a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol.

I mi, mae hynny’n awgrymu fod arianwyr yn gweithio’n dda gyda’i gilydd ond, weithiau, bod eu hannibyniaeth yn gryfder pwysig.

Beth mae hynny’n ei olygu i ni yng Nghymru?

Mae’n cael ei gydnabod fod ein sector ni yma yng Nghymru’n dibynnu ar ychydig iawn o arianwyr a dyngarwyr elusennol cenedlaethol a hefyd ar yr un mor ychydig o arianwyr y DU sy’n weithgar yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn cadarnhau, i mi, fod gan Fforwm Arianwyr Cymru, sy’n cael ei arwain yn fedrus gan Carol Mack, rôl bwysig a hanfodol o ddod ag arianwyr at ei gilydd. Mae’n ein helpu i gysylltu ac i baratoi gofod i’w rannu.

Gwnaeth y canfyddiadau hefyd i mi feddwl am bwysigrwydd ein Prosiect Ymddiriedolaethau a Sefydliadau, sydd wedi’i sefydlu i wella gallu Cymru i ddenu buddsoddiadau o ymddiriedolaethau a sefydliadau yn y DU. Er mai Sefydliad Cymunedol Cymru sy’n ei arwain, mae’r bartneriaeth hon yn dod ag arianwyr yng Nghymru a Llundain at ei gilydd, a hefyd sefydliadau’r llywodraeth a seilwaith y trydydd sector. Mae gan bob un ran bwysig i’w chwarae ond gall pob un ohonom lwyddo i gyrraedd ein nodau annibynnol yn fwy llwyddiannus drwy weithio mewn partneriaeth.

Dylai Cymru mae’n debyg, yn fwy nag unrhyw ran arall o’r ynysoedd hyn mae’n debyg, fod yn gweithio fel hyn.

Yn enwedig o gofio y soniwyd ddoe fod ymchwil yn dangos fod 32% o sefydliadau gwirfoddol yn credu y daw mwy o incwm grant o’r sefydliadau hyn yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Yn aml, rydym yn anghofio, er mai ceisio gwella a denu buddsoddiadau i Gymru rydym ni, fod pob ardal arall y DU yn ceisio gwneud hynny hefyd. Fe ddylem ni fod ar y blaen, a bod ar y blaen ynghynt na’r ardaloedd eraill yn y DU, i daclo’r anghydbwysedd economaidd sydd i’w weld o’n cwmpas.

Mae pethau ar fin poethi, bydd y gystadleuaeth yn gryfach – byddwn angen ein cymdogion a’n ffrindiau yn fwy nag erioed.

Cewch ddarllen rhagor am yr adroddiad yma.

News

Gweld y cyfan
Amser i wrando ar grwpiau cymunedol a’r gefngoaeth sydd ei angen

Amser i wrando ar grwpiau cymunedol a’r gefngoaeth sydd ei angen

Grwpiau trydydd sector yn gyrru neges uchel ac yn groch

Grwpiau trydydd sector yn gyrru neges uchel ac yn groch

Ceffyl da yw ewyllys

Ceffyl da yw ewyllys

Cymuned yn ystod COVID-19

Cymuned yn ystod COVID-19