Mae prosiectau merched a genethod cymru yn rhannu cyllid Cymunedol Treth ar Damponau Cenedlaethol

Mae prosiectau merched a genethod cymru yn rhannu cyllid Cymunedol Treth ar Damponau Cenedlaethol

Mae pum prosiect lleol sy’n gweithio â rhai o ferched a genethod mwyaf agored i niwed cymdeithas wedi derbyn hwb gwir ei angen o ran cyllid oddi wrth Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.

Mae’r elusennau a’r grwpiau cymunedol bychain hyn wedi derbyn rhwng £5,000 – £10,000 oddi wrth y Gronfa Gymunedol Treth ar Damponau i ddarparu gwasanaethau i ferched o bob oed a chefndir sy’n wynebu materion megis tlodi misglwyf, camdriniaeth ddomestig a rhywiol, iechyd meddwl a diweithdra hirdymor i helpu i fagu’u sgiliau, eu hyder a’u hunan-barch.

Bydd prosiectau yng Nghymru sy’n derbyn cyllid yn helpu merched a genethod o ystod eang o grwpiau oedran, ethnigeddau a chefndiroedd i ddefnyddio gweithgareddau lles, i dderbyn cymorth megis cwnsela ac eiriolaeth, i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol, i ddatblygu sgiliau digidol ac i fynychu cyrsiau magu hyder.

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol yng Nghymru:

“Mae’r gronfa hon yn darparu cymorth ariannol hanfodol i brosiectau cymunedol pwysig sydd â’r nod o wella bywydau merched a genethod difreintiedig. Mae Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn falch o fod yn dosbarthu’r Gronfa Gymunedol Treth ar Damponau ac mae’n parhau i gynnig cefnogaeth a chymorth i ferched a genethod agored i niwed ledled Cymru. “

Mae Sefydliad Cymunedol yng Nghymru wedi dyfarnu pum grant i’r prosiectau a ganlyn:

Bydd prosiect Women Connect First yng Nghaerdydd yn galluogi, yn fras, 250 o ferched a genethod i elwa o ystod o weithgareddau lles megis dosbarthiadau ioga, myfyrdod ar ymwybyddiaeth o’u hunain ac ymarfer. Byddant hefyd yn derbyn cymorth megis cwnsela ac eiriolaeth, lleoliadau a chyfleoedd i wirfoddoli i helpu â datblygiad personol.

Mae Peak’s Caban Ffoto yn rhaglen hyfforddi yn y celfyddydau digidol fydd yn gwella hyder ac yn hwyluso dysgu gyda 12 o ferched ifainc 16-25 mlwydd oed, gan greu cynnwys digidol yn ymwneud â diwylliant, pobl, treftadaeth a thirwedd Y Fenni, gan ganiatáu i bobl ifanc gymryd perchnogaeth o’r ardal lle maent yn byw a rhoi sylw i’r stigma y maent yn ei wynebu.

Bydd Canolfan Merched Gogledd Cymru Cyf. yn Y Rhyl yn datblygu ystod o weithgareddau cymunedol fydd yn adeiladu rhwydweithiau cymdeithasol i ferched a genethod. Caiff gwirfoddolwyr eu grymuso i gynnig, trefnu, a llunio gweithgareddau sy’n lleihau arwahanrwydd, sy’n magu cyfeillgarwch, hyder a sgiliau, ac sy’n hyrwyddo ethos ‘merched i ferched’.

Mae Home-Start Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn derbyn cyllid i hyfforddi aelod o staff i fod yn hwyluswr i’r Rhaglen Ryddid a gydnabyddir yn genedlaethol. Bydd y rhaglen yn cynorthwyo merched i nodi perthynas lle mae camdriniaeth yn bodoli ac fe fydd yn eu hannog i wneud cynlluniau diogelwch neu gynlluniau i adael.

Bydd prosiect ‘Listen Up / Gwrandewch’ gan Dynamix Ltd yn Abertawe yn gweithio â 3 grŵp o 15 o ferched i ddarparu cwrs magu hyder dros 4 wythnos i’w cyfarparu â’r offer i gael pobl i glywed eu lleisiau, i gymryd mwy o ran yn eu cymunedau ac i godi dyheadau fel eu bod yn teimlo’n fwy galluog i chwilio am neu i wella cyfleoedd i gael hyfforddiant neu waith cyflogedig.

Fel un o sefydliadau mwyaf y Deyrnas Unedig am roi grantiau, fe ofynnodd y llywodraeth i Sefydliad Cymunedol y DU (UKCF) ddosbarthu’r gyfran fwyaf o’r cyllid a godwyd drwy’r ardoll ar gynnyrch misglwyf yn 2017/18 i brosiectau lleol, bychain sy’n gweithio gyda’i rwydwaith o Sefydliadau Cymunedol ledled y

Deyrnas Unedig, ac mae Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn rhan ohonynt.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…