Sefydliad Cymunedol Cymru yn lansio Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Sefydliad Cymunedol Cymru yn lansio Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Er mwyn ymateb i anghenion brys pobl sy’n cael eu dadleoli gan wrthdaro a cheisio noddfa yng Nghymru, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi lansio Cronfa Croeso Cenedl Noddfa.

Bydd arian a godir yn cefnogi elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi cyrraedd Cymru ar ôl cael eu dadleoli gan wrthdaro; drwy roi eitemau hanfodol iddynt a’u helpu i ymgartrefu yn eu hamgylchoedd newydd.

Mae ein gwybodaeth helaeth am sefydliadau llawr gwlad a’r trydydd sector yn golygu y gallwn gyrraedd yr elusennau a’r grwpiau cymunedol sy’n darparu’r math hwn o gymorth, yn gyflym ac yn effeithiol. Bydd pob rhodd i’r gronfa yn mynd tuag at y sefydliadau a’r grwpiau hyn, gan sicrhau, pan fydd unigolion a theuluoedd yn cyrraedd Cymru, y gallant gael y cymorth sydd ei angen arnynt a dechrau’r broses o ailadeiladu eu bywydau.

Er mwyn sicrhau bod yr arian yn mynd i’r man lle mae ei angen mewn gwirionedd, yr ydym yn ymgynghori ar frys gyda sefydliadau yng Nghymru sy’n cefnogi’r bobl sy’n cael eu dadleoli gan wrthdaro ac yn ceisio noddfa yn uniongyrchol er mwyn asesu eu hanghenion a pharhaus. Byddwn mor hyblyg â phosibl i sicrhau bod y cyllid yn cyrraedd y sefydliadau hyn cyn gynted â phosibl.

Fe ddywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad ein Cronfa Cenedl Croeso Noddfa.

Gyda’r gwrthdaro diweddar yn Afghanistan ac Y Wcráin, mae angen y cymorth hwn ar frys wrth i Gymru ddod yn gartref i’r nifer fawr o bobl sy’n dianc i ddiogelwch.

Drwy’r gronfa hon byddwn yn gallu cefnogi’r grwpiau cymunedol ar lawr gwlad sydd eisoes yn gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddarparu eitemau hanfodol i alluogi pobl sydd wedi’u dadleoli sydd wedi cyrraedd, neu a fydd yn cyrraedd, yng Nghymru i ddychwelyd ar eu traed.

Rydym yn apelio ar bobl a busnesau i roi i Gronfa Croeso Cenedl Noddfa fel y gallwn helpu i ddarparu cymorth hanfodol i bobl sy’n cael eu dadleoli gan wrthdaro a cheisio noddfa yng Nghymru.”

Gallwch gyfrannu ar-lein yma.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu