Swyddogaeth busnesau yng Nghymru yn yr argyfwng Coronavirus

Rydym ni mewn amser digymar, ble mae pob sector ar draws y Deyrnas Unedig yn cael ei effeithio gan effaith COVID-19, gyda phawb yn aros adra ac ysgolion yn cau.

Yn Gymru, mae hun yn digwydd dim ond mis ar ôl y llifogydd yrru pobol o’i gartref ac o’i busnesau, gyda nifer ar draws y wlad yn wynebu colled arian a difrod.

Mae tystiolaeth o’r adroddiad gan y ACEVO yn dangos y cafodd y sector wirfoddol ei daro fwyaf wrth i’r economi gymryd tro am y gwaethaf. Dangosodd yr adroddiad bod 60 elusennau bach yn cau yn ddyddiol; gydag elusennau’r DU yn disgwyl colli 48% o’i incwm; gyda’r sector wirfoddol yn disgwyl colli cyfanswm o £4bn. Mae gwasanaethau allweddol sydd ar gael i’r rhai mwyaf bregus yn ei’n gymunedau yn dioddef.

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi ymateb yn gyflym i’r sefyllfa argyfwng yma wrth lansio Cronfa Gwydnwch Coronavirus Cymru tair wythnos yn ôl.

Lansiodd y gronfa gyda £200,000 a chafodd swm mawr o £100,000 ei ychwanegu gan yr Ymddiriedolaeth Argyfwng Cenedlaethol (NET). Ers hynny rydym wedi gweld cyfraniadau yn dod gan nifer o ei’n rhoddwyr unigol, rhai sydd gyda chronfa hefo ni yn barod.

Roedd Grŵp Admiral yn un o’r busnesau cyntaf i fod yn rhan o’r gronfa. Fe bwysleisiodd wrth roi cyfraniad nag nid oherwydd rhwymedigaeth cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol roeddent yn gwneud hyn, ond ei bod eisio bod yn rhan o gronfa sydd yn helpu cymunedau yn Gymru sydd yn rhoi’n yn ôl yn syth i gymunedau ble mae ei gweithwyr yn byw.

Mae Admiral yn cydnabod pwysigrwydd grwpiau bychain, sydd fel arfer yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr, sydd yn gwneud gwaith hanfodol yn ei gymunedau, a fuasai’n peidio â bodoli pe bai eu ffynonellau cyllid yn sychu.

Nawr mae ei’n grantiau yn cael ei dosbarthu i sefydliadau ar draws Gymru. Mae’r grwpiau yma yn gwneud ei gorau o dan amgylchiadau anodd i helpu’r henoed a phobl bregus sydd yn unig ac angen bwyd, meddygaeth neu glust cyfeillgar ochor arall i’r ffon.

Grwpiau fel Moorland STAR, a Chanolfan Cymunedol Splott, sydd wedi newid ei clwb cinio wyneb yn wyneb i ddosbarthu cannoedd o brydau poeth yn ddyddiol i’r henoed yn ei cymuned.

Dyma enghraifft o broblemau hanfodol rydym ni yn ei wynebu. Mae’r bobol sydd yn defnyddio’r gwasanaeth angen ei’n help nawr, mwy na unrhyw adeg arall.

Yn ychwanegol mae rhaid i ni feddwl am sut bydd Cymru yn edrych ar ôl i’r cyfnod o aros adref ddod i ben. Meddyliwch am y rhai sydd wedi colli rhai sydd yn agos iddynt yn ystod yr amser argyfwng yma, ac mi fyddent heb neb yno yw cefnogi a’i helpu. Bydd ei’n gronfa yn mynd i’r grwpiau sydd yn ei cefnogi nawr ond hefyd i’r rhai ble bydd ei gwasanaeth yn angenrheidiol misoedd lawr y lon, pam rydym yn disgwyl amser argyfwng iechyd meddwl.

Heb gyfraniad a chefnogaeth gan sefydliadau corfforaethol, ni fydd y grwpiau yma goroesi, a ni fyddent yn gallu parhau i wneud gwaith hanfodol mewn amser mae ei’n cymunedau ei angen fwyaf.

Mae busnesau mawr Cymru yn cyflogi miloedd o bobl, gyda rhan fwyaf ohonynt yn gweithio o adref nawr. Rydym ni yn gofyn i’r busnesau yma feddwl am ei gweithwyr ac fel cyflogwyr i wneud cyfraniad sylweddol i gymunedau ac i’r rhai sydd wedi cael ei effeithio gan COVID-19.

Plîs gwnewch gyfraniad heddiw.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu