Anoushka Palmer
Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata

Fy nghefndir
Ymunais â Sefydliad Cymunedol Cymru ym mis Gorffennaf 2018 ar ôl gweithio ym maes marchnata a chyfathrebu yn y sector cynaliadwyedd am 9 mlynedd ar amrywiaeth o raglenni a phrosiectau a oedd yn canolbwyntio ar dlodi tanwydd, arbed ynni ac ynni adnewyddadwy cymunedol.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Fel Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata rwy’n arwain ar greu cynnwys, cyfeiriad a datblygiad y wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol a dangos ein heffaith gadarnhaol trwy straeon am bobl go iawn. Rwy’n gyfrifol am sicrhau ein bod ni’n glir ac yn gyson ynglŷn â sut rydyn ni’n siarad amdanon ni’n hunain a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, gan ledaenu’r gair am y prosiectau anhygoel rydyn ni’n eu cefnogi.
Holwch fi ynghylch
Brandio, dylunio a hawlfraint.
Pam rwy'n caru Cymru
Fel rhywun o Lundain sydd bellach yn byw yng Nghymru, rwyf wedi dod i werthfawrogi’r ffordd o fyw dawelach a thaith fyrrach o lawer i’r gwaith!
Rwy’n hoff iawn o fyw yn y ddinas ond gan fod yn agos at y tirweddau a’r traethau arbennig o hyd, rwyf wir yn cael y gorau o’r ddau fyd.