Richard Williams
Prif Weithredwr
Fy nghefndir
Cyn ymuno â Sefydliad Cymunedol Cymru ym mis Medi 2017, treuliais naw mlynedd fel Cyfarwyddwr ar gyfer Action on Hearing Loss Cymru (RNID), ac roeddwn yn gyfrifol am eu gwasanaethau, digwyddiadau codi arian ac ymgyrchu yng Nghymru. Cyn hynny, roeddwn yn newyddiadurwr papur newydd a gweithiais fel golygydd y South Wales Echo, Wrexham Evening Leader ac roeddwn hefyd yn ddirprwy olygydd y Daily Post.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Fi yw prif weithredwr y Sefydliad. Mae’n swydd wych ac rwy’n falch o arwain y tîm arbennig sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau mewn cymunedau ledled Cymru. Mae gennym fwrdd gwych o ymddiriedolwyr, a gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i dyfu’r sefydliad elusennol drwy annog mwy o bobl i roi fel y gallwn gefnogi mwy o grwpiau cymunedol yng Nghymru.
Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau ein bod yn rhoi ein strategaeth a’n cynllun busnes ar waith, ein bod yn diwallu anghenion pobl yng Nghymru ac yn gwella ein gallu i ddarparu cyllid cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Fy hoff ran o’r swydd yw clywed am ein llwyddiannau a sut rydym yn gwneud gwahaniaeth. Rwyf hefyd yn hoff iawn o drafodaethau sy’n ein herio i dyfu. Mae angen sefydliad cymunedol cryf ar Gymru ac rydym yn gweithio’n galed i gynyddu lefel y cyllid y gallwn ei greu.
Holwch fi ynghylch...
Sefydliad Cymunedol Cymru ac unrhyw beth sy’n helpu i adeiladu cymunedau cryfach yng Nghymru!
Siaradwch â mi am eich syniadau ar gyfer ariannu grwpiau cymunedol, sut y gallwch wneud gwahaniaeth a sut y gallwn eich helpu i wneud hynny.
Pam rwy'n caru Cymru
Ac eithrio fy nheulu a’m timau pêl-droed (Cymru a Wrecsam!), rwy’n frwd dros Gymru am fod gennym gryfderau arbennig a chyfleoedd i sicrhau gwlad well a chryfach.
Rwyf wrth fy modd yn ein gweld yn llwyddo – boed hynny ym maes chwaraeon, diwylliant, busnes neu unrhyw beth. Mae gennym dreftadaeth, iaith, cerddoriaeth a hanes arbennig ac mae ein pobl yn groesawgar ac yn hael.
Fy hoff fannau yng Nghymru? Y Foryd, Caernarfon; Y Cae Ras wedi’i oleuo â llifolau ar gyfer gêm gyda’r nos yn y gaeaf, neu unrhyw draeth ar arfordir y gorllewin ar ddiwrnod braf. Mae cymaint o ddewis!