Smitha Coughlan
Pennaeth Cyllid
Fy nghefndir
Ymunais â Sefydliad Cymunedol Cymru ym mis Chwefror 2022 fel Pennaeth Cyllid a chyn hynny gweithiais fel Rheolwr Refeniw a Phrisio gyda Wales and West Utilities. Fe wnes i fy hyfforddiant a’m cymwysterau yn KPMG Caerdydd, cwmni archwilio a chyfrifyddiaeth.
Rwyf hefyd yn Drysorydd ac yn Ymddiriedolwr Prosiect Partner Geni, elusen fach Gymreig sy’n helpu menywod beichiog a fyddai fel arall yn wynebu genedigaeth ar eu pennau eu hunain.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Fel y Pennaeth Cyllid rwy’n gofalu am bob agwedd ar gyllid yr elusen o sicrhau bod yr arian yn cael ei fuddsoddi’n ddoeth i baratoi’r cyfrifon.
Holwch fi ynghylch...
Cyllid Elusennau!
Pam rwy'n caru Cymru
Cefais fy ngeni a’m magu yng nghymoedd Cymru ac rwy’n teimlo’n gwbl gartrefol wedi fy amgylchynu gan fynyddoedd, coedwigoedd ac afonydd. Rwyf hefyd yn ymweld yn rheolaidd â thraethau trawiadol arfordir Cymru. Mae byw ger y ddinas ond hefyd yn agos at yr holl dirwedd naturiol anhygoel sydd gan Gymru i’w chynnig yn teimlo fel y gorau o bob byd. Does dim lle arall y byddai’n well gen i fod!