Y Principality yn creu cronfa £100,000 i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru

Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality wedi ymrwymo £100,000 i gefnogi sefydliadau trydydd sector a chymunedol i helpu pobl ifanc ledled Cymru.

Mae’r busnes sy’n eiddo i aelodau wedi ffurfio partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru (CFW) i gyflenwi grantiau o hyd at £5,000 yr un ar gyfer prosiectau ar gyfer Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol a fydd yn annog pobl ifanc i baratoi sgiliau ar gyfer byd gwaith yn y dyfodol, cyllid personol, dod o hyd i waith, a byw bywydau mwy cynaliadwy.

Wedi’i sefydlu ym 1999, mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn dyfarnu grantiau o dros £2.6 miliwn bob blwyddyn i elusennau a grwpiau cymunedol i gryfhau cymunedau ledled Cymru.

Meddai Vicky Wales, Prif Swyddog Cwsmeriaid Principality:

“Mae’r Principality wedi gweithio ar brosiectau mawr i helpu i addysgu pobl ifanc am gyllid i’w helpu i’w paratoi ar gyfer y dyfodol ers bron i ddegawd ond dyma ddechrau un o’r prosiectau cymdeithasol mwyaf rydym erioed wedi ymgymryd ag ef fel busnes.

“Ystyrir bod miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol a gyda chefnogaeth CFW rydym am gyrraedd y grwpiau mwyaf agored i niwed i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi i’w gwneud yn fwy cyflogadwy, i gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles, yn eu dysgu sut i gyllidebu eu harian fel y gallant gael dyfodol mwy diogel, a’u gwneud yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd.

“Ein barn ni yw y dylai busnesau blaenllaw yng Nghymru fel ni arwain y ffordd i helpu i greu cymdeithas lawer tecach a chydweithredol. Mae’n amhosibl gwneud hyn ar ein pen ein hunain a dyna pam rydym yn falch y byddwn yn gallu cydweithio â llawer o grwpiau cymunedol ledled y wlad sy’n gwneud gwaith mor wych i helpu pobl ifanc sydd ei angen fwyaf.”

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Rydym yn falch iawn o fod yn partneru gyda’r Principality, sefydliad sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n hangerdd dros gryfhau cymunedau yng Nghymru.

“Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yng Nghymru ers dros 20 mlynedd, gan adeiladu cefnogaeth ddyngarol i gymunedau a grwpiau ar lawr gwlad. Yn y cyfnod hwnnw, gan weithio gyda rhoddwyr a busnesau unigol, yr ydym wedi gallu rhoi mwy na £30m i gymunedau lleol Cymru.

“Bydd y gronfa newydd hon yn darparu cymorth y mae mawr ei angen ar grwpiau cymunedol ac elusennau i wneud gwahaniaeth mwy fyth i fywydau ledled Cymru.”

Gallwch ddarllen mwy am Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality yma.

 

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu