Be ddysgais i o daith Cymru Tricia
Un o’r cyfarfodydd mwyaf diddorol i mi yn ddiweddar oedd gyda gwirfoddolwraig, dynes o’r enw Tricia.
Bu Tricia yng Nghymru i ddilyn ôl traed ei Nain oedd yn byw yn Nhreherbert. Mae Tricia yn ysgrifennwr ac roedd eisiau gwirfoddoli tra yma yng Nghymru. Trefnodd y tîm iddi ymweld â rhai o’r prosiectau sydd wedi ei ariannu gan CFW er mwyn adrodd a rhannu eu stori.
Felly mi aeth Tricia ati am fis cyfan yn teithio Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus i ymweld â grwpiau lleol.
Bues i yn ffodus i gyfarfod a Tricia yr wythnos diwethaf i glywed am ei gwaith a’r profiad. Dyma brofiad a arweiniodd at ddau emosiwn cryf.
Yn gyntaf oll, y balchder o glywed am waith mor dda ar hyd Cymru, ac i weld ymwelydd wedi ei synnu gymaint gan hyn.
Roedd gymaint o bleser i weld hyn yn cael ei nodi gyda chymaint o angerdd gan ymwelydd i’n gwlad. Rydan ni weithiau yn tan-werthu yr hyn mae ein grwpiau lleol yn cyflawni – ac eto dyma Tricia wedi ei bowlio drosodd gyda stori genedlaethol mor bositif, lle rydan ni yn arwain y byd, a ble mae ein cryfderau fel gwlad o bobl gymunedol yn wir gryfder.
Moment bach i atgoffa pawb sy’n rhan o sector wirfoddol Cymru – daliwch ati i dynnu sylw at lwyddiannau ein sector ni. Rhowch ein gostyngeiddrwydd Cymreig i’r ochr, a dathlwch ein cymunedau a’r camau sy’n cael eu cymryd i wella pethau. Diolch i Tricia am ein hatgoffa ni!
Ond wedyn, y tristwch a’r embaras wrth glywed Tricia yn son am ei theithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus ein gwlad. Wrth gwrs dydi hyn ddim sypreis o gwbl i ni sydd yn teithio ar drên neu fws yn aml.
Trenau sydd ddim yn troi fyny. Gwasanaeth traws-gwlad o ddwy goets orlawn. Bysiau sydd i weld heb fath o amserlen. Mor wael… ond yr hyn wnaeth ei synnu? Fod pawb yn derbyn y sefyllfa, jest ychydig o fwmian. Meddai Tricia: “Os byddai hyn yn digwydd yn Awstralia, fyddai pobl ddim yn dioddef y sefyllfa.”
Ond, dyna beth sydd yn digwydd yma.
Er hyn roedd wir yn bleser clywed gan Tricia am ei phrofiadau. Roedd fel rhywun yn dal drych ar ein bywydau yng Nghymru a’r hyn y gallwn fod mor falch ohono. Ond hefyd yn atgoffa rhywun o bwysigrwydd gwneud yn well, i sefyll fyny a pheidio derbyn gwasanaethau eilradd.
Mi fyddwn yn cyhoeddi straeon Tricia yn hwyrach y flwyddyn yma – mwy o newyddion i ddod!
Darllenwch fwy am daith Tricia yma