Cefnogi menywod beichiog sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru

“Mae’r prosiect hwn wedi gwneud newid enfawr i’m bywyd. Roeddwn i’n styc y tu fewn yn syllu ar bedair wal. Ers cymryd rhan, mae’r prosiect wedi newid sut rwy’n edrych ar fy mywyd ac eisiau gwneud pethau. Mae’r prosiect hwn wedi rhoi pethau i mi eu gwneud ac i edrych ymlaen atyn nhw.”

Mae’r Prosiect Partner Geni’n darparu partneriaid geni gwirfoddol i gefnogi merched sy’n ffoaduriaid ac sy’n ceisio lloches a fyddai fel arall yn wynebu rhoi genedigaeth ar eu pen eu hunain.
Yn ystod y pandemig, roedd yn rhaid i Brosiect Partner Geni canfod ffordd o addasu eu gwasanaeth a oedd yn draddodiadol yn dibynnu ar gefnogaeth wyneb yn wyneb mewn ffordd a oedd yn ystyrlon, diogel ac o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae cynhwysedd ddigidol wedi bod yn allweddol mewn cadw cysylltiad â’r merched y maen nhw’n eu helpu ac yn dal i ddarparu iddyn nhw’r gefnogaeth a’r wybodaeth hanfodol.

Galluogodd grant gan Gronfa Gwytnwch Coronafeirws Cymru i’r Prosiect Partner Geni redeg rhaglen cynhwysedd ddigidol yn canolbwyntio ar wella llesiant yn hwyr mewn beichiogrwydd ac yn gynnar ar ôl dod yn fam. Roedd hynny’n cynnwys cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau llesiant creadigol a llawn gwybodaeth.

Roedd yr arian hefyd wedi’u helpu i ddosbarthu 15 pecyn digidol a oedd yn cynnwys tabledau, data a chlustffonau a oedd yn eu galluogi i ddod â chyfieithwyr i mewn er mwyn sicrhau fod yr holl ddosbarthiadau a sesiynau gwybodaeth yn hygyrch i bawb.

Ers rhedeg y prosiect cynhwysedd ddigidol, mae’r Prosiect Partner Geni wedi gweld hyder y merched maen nhw’n eu cefnogi yn cynyddu, gydag un person sy’n mynychu’r dosbarthiadau Saesneg yn rheolaidd yn dweud:

“O’r blaen doeddwn i ddim yn hyderus iawn yn siarad Saesneg. Nawr, hyd yn oed os nad wyf yn gywir, rwy’n hoffi trio.”

Mae cymryd rhan yn y dosbarthiadau hefyd wedi helpu’r merched maen nhw’n eu cefnogi i gyfuno’n well i gymuned Caerdydd. Dywedodd un ferch:

“Mae fy rhan yn y prosiect wedi fy helpu i ddeall bywyd yn y wlad hon.”

Mae’u dosbarthiadau a phecynnau digidol wedi bod yn allweddol mewn darparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer rheini am y tro cyntaf, gydag un fam yn dweud:

“Rwyf ar fy mhen fy hun gyda’r babi bob amser felly, ers cael y tabled rwyf wedi gallu gwneud ymchwil ac edrych pethau i fyny mewn perthynas â hi.”

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies