Rhoi llwyfan i 40,000 o bobl ifanc a’u talentau cerddorol

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Rhoi llwyfan i 40,000 o bobl ifanc a’u talentau cerddorol

“Roedd y grant wedi ein galluogi i gyrraedd mwy na 900 o blant ledled y pedwar awdurdod. Heb y grant, ni fyddai’r plant wedi cael y cyfle i arddangos eu talentau er mwyn cystadlu yn rowndiau rhanbarthol Gŵyl ‘Music for Youth’.

Mae Cerdd Gwent yn darparu amrywiaeth o wersi cerddoriaeth a gwasanaethau cerddoriaeth sy’n diwallu anghenion a dyheadau disgyblion, sefydliadau addysgol a chymunedau lleol. Dyfarnwyd £5,000 i’r rhaglen drefnu Gŵyl ‘Music For Youth’ Ranbarthol Casnewydd – digwyddiad a gynhaliwyd ers dros 20 mlynedd, gan ddarparu cyfleoedd perfformio a gweithdai i bobl ifanc ledled y rhanbarth.

Mae Gŵyl Ranbarthol Casnewydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn yr ŵyl gerddoriaeth fwyaf i bobl ifanc yn Ewrop. Cafodd mwy na 40,000 o bobl ifanc yng Nghymru y cyfle i ganu, chwarae, cyfansoddi a chymryd rhan mewn gweithgareddau dros y deuddydd cyntaf yng Nghasnewydd.

Helpodd y grant gyda’r costau o gynnal yr Ŵyl Ranbarthol gan gynnwys llogi Canolfan Casnewydd, cyfarpar technegol, criw llwyfan, staff dros y ddau ddiwrnod, gwisg ar gyfer y myfyrwyr a oedd yn gwirfoddoli a gweithdy ysgrifennu caneuon. Roedd hefyd wedi helpu i ariannu costau teithio amrywiaeth o grwpiau i fynd i rownd genedlaethol yr ŵyl yn Birmingham ym mis Gorffennaf.

Roedd y prosiect wedi gweithio gydag ysgolion a chanolfannau cerddoriaeth er mwyn hyrwyddo cyfranogiad, ymgysylltu â phobl ifanc a’u hysbrydoli i ddatblygu eu sgiliau cerddoriaeth. Ni fyddai llawer o’r plant hynny wedi profi digwyddiad fel hyn gyda’u hysgol na’u cymuned.

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies