Cymorth hanfodol mewn cyfnod o argyfwng

Cronfa Gwydnwch Coronavirus Cymru

Cymorth hanfodol mewn cyfnod o argyfwng

Sefydlwyd Help Harlech yn sgil y pandemig coronafeirws er mwyn cefnogi’r rhai nad ydyn nhw’n gallu byw eu bywyd pob dydd oherwydd y cyfyngiadau symud a’r cyngor gorfodol i hunan ynysu.

Yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Twristiaeth Harlech, mae gwirfoddolwyr cymunedol brwdfrydig yn gweithio’n ddiflino i ddanfon eitemau hanfodol, presgripsiynau, bwyd a nwyddau sylfaenol i drigolion sy’n wynebu pryderon ariannol cynyddol a phryderon iechyd ar yr adeg rhyfeddol yma.

Erbyn hyn, ac yn yn rhan naturiol o ymateb y dref i Covid-19, derbyniodd Help Harlech grant argyfwng o £2,000 gan Sefydliad Cymunedol Cymru i gefnogi anghenion dyddiol ei wasanaethau ac i’w alluogi i brynu offer amddiffyn personol i’w wirfoddolwyr ar eu teithiau danfon.

Mae’r trigolion lleol wedi bod yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ac wedi mynegi eu diolchgarwch am waith Help Harlech.

Meddai Mark Thomas, Rheolwr Fferyllfa leol:

“Mae llawer o gwsmeriaid wedi bod yn erfyn am wasanaeth, yn mynnu bod eu presgripsiynau’n cael eu danfon a rhai’n mynd i banig llwyr. Mae wedi bod yn straen fawr, ymdopi gyda llawer gormod o waith a phoeni am weithio ar y llinell flaen gydag ond ychydig o offer amddiffyn personol.

Daeth hyn i gyd yn llawer haws wrth i gymuned Harlech uno gyda’i gilydd a ffurfio’r ‘cynllun cyfaill’ i ddanfon presgripsiynau, casglu a danfon bwyd / nwyddau hanfodol a chwblhau tasgau pwysig eraill i’r rhai nad ydyn nhw’n gallu gadael eu cartrefi oherwydd hunan ynysu neu resymau meddygol neu eu bod yn dechrau dangos symptomau.

Mae’r cynllun hwn yn cael ei arwain gan Graham Perch, sy’n eithriadol o effeithlon ac sydd wedi trefnu pethau’n berffaith. Mae presgripsiynau’n cael eu casglu a’u danfon yn brydlon a chyda gwên pob amser. Yn bendant, mae wedi gwneud ein bywyd ni gymaint yn haws ar yr adeg anodd yma.

Ychwanegodd Graham Perch:

“Erbyn hyn rydyn ni wedi gorffen mwy na 150 o dasgau ledled yr ardal ac mae gennym ni dros 50 o gwsmeriaid rheolaidd.

Rydyn ni yn dal i gynnig cefnogaeth trwy Facebook ar ein tudalen Help Harlech a hefyd ar y dudalen leol yn y Bermo. Rydym hefyd wedi anfon llythyrau at y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol lleol ynghyd â llythyrau at y feddygfa leol.

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies