Cymuned leol yn ymgysylltu

Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru

“Mae bod yn rhan o Hope St Mellons wedi dod â fi’n agosach at fy nghymdogion ac wedi caniatáu i mi integreiddio i’r gymuned mewn ffordd oedd yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus a hyderus.”

Collage of photos showing the work of Hope St MellonsDechreuodd Hope St Mellons yn 2018 gyda phobl leol yn dod at ei gilydd i gynnig prosiectau a gweithgareddau a fyddai’n adeiladu’r gymuned ac yn creu cyfleoedd.

Yn 2020, datgelodd y pandemig wendidau a chryfderau’r gymuned leol. Er mwyn llenwi’r bylchau ac adeiladu ar y cryfderau, derbyniodd y grŵp arian o Gronfa Ymateb ac Adfer Cymru i gyflogi cydlynydd i oruchwylio a chefnogi’r ystod gynyddol o raglenni, prosiectau a gweithgareddau sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr.

Ers gwneud hyn maen nhw wedi datblygu rhaglen wirfoddolwyr a dyblu eu tîm gwirfoddol i 38. Mae’r cynnydd hwn wedi eu helpu i lansio nifer o fentrau newydd gan gynnwys Pantri Llaneirwg, Rhaglen Ysgoloriaeth Step Out a Chlwb Garddio.

Mae cyflogi cydlynydd hefyd wedi eu galluogi i edrych i’r dyfodol a datblygu strategaeth codi arian mwy hirdymor i gefnogi costau craidd.

Dywedodd Helen Griffiths o Hope St Mellons :

“Cronfa Ymateb ac Adfer Cymru oedd y catalydd ar gyfer twf sylweddol i Hope St Mellons. Mae’r capasiti sefydliadol a ganiataodd i ni adeiladu wedi bod yn sylfaenol i’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Roeddem yn hyderus pe gallem gryfhau’r grŵp fel llwyfan i weithredu y byddai pobl leol yn dod â’u sgiliau a’u profiad er budd y gymuned leol.

Mae Hope St Mellons yn grŵp sy’n tyfu gyda gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n cynrychioli sgiliau, bywiogrwydd ac amrywiaeth ein cymuned leol. Fel grŵp sydd â gwreiddiau dwfn yn ein cymuned rydym wedi bod mor gyffrous i weld y momentwm a’r twf hwn a’r cyfleoedd i gysylltu â newid y mae wedi’i greu.”

Dywedodd Edwina, un o aelodau’r Clwb Garddio:

“Mae bod yn rhan o’r Clwb Garddio wedi rhoi hwb i fy lles drwy wneud perthynas newydd gydag aelodau eraill a’u teuluoedd a gwrando ar eu straeon. Dwi wedi mwynhau cael fy annog a gobeithio bod yn anogaeth. Mae bod yn yr awyr agored gydag eraill yn hau a thyfu yn bendant wedi gwneud i mi deimlo’n well yn gorfforol ac yn feddyliol.”

Dywedodd Mags, un o aelodau’r pantri a gwirfoddolwraig:

“Mae’r pantri wedi newid fy mywyd. Dwi’n edrych ymlaen at weld y tîm bob wythnos. Mae fy iechyd meddwl i gymaint gwell ac mae prynu bwyd o’r pantri wedi fy helpu yn ariannol gymaint.”

Meddai Madeline, un o wirfoddolwyr Ysgoloriaeth Step Out:

“Rwyf wedi caru bod yn rhan o Hope St Mellons – mae wir wedi gwneud i mi deimlo cymaint mwy o gysylltiad â’m cymuned.”

 

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies