Defnyddio gwneud ffilmiau i adeiladu hyder mewn pobl ifanc

Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Defnyddio gwneud ffilmiau i adeiladu hyder mewn pobl ifanc

“Mae gan un o’n haelodau rhai anableddau meddyliol a chorfforol ar ôl iddo gael ei gam-drin yn ddifrifol yn faban.Er ei fod yn cael trafferth gyda’i leferydd, dyw e byth yn rhoi lan ac mae’n cymryd rhan ym mhob peth sydd ar gael. Yn ei eiriau ei hun, “Rwy’ wrth fy modd yma a byth eisiau gadael.”

Mae Cymru Creations yn rhedeg clwb ffilm a hyfforddi cynhwysol ar gyfer pobl ifanc ym Mlaenau Gwent sy’n canolbwyntio ar wella eu sgiliau craidd a’u llythrennedd, rhifedd a TG wrth wneud ffilmiau.

Gyda grant o £4,200 gan Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, maen nhw wedi gallu rhedeg tair sesiwn Academi Ffilm ychwanegol bob wythnos a chyflogi tiwtoriaid ychwanegol i redeg dosbarthiadau actio a ffilmio arbenigol.

Drwy ddod at Cymru Creations, mae llawer o bobl ifanc wedi goresgyn llawer iawn o wahanol broblemau gan ennill hyder a datblygu sgiliau newydd. Mae gan un ferch ifanc sy’n dod i’r sesiynau atal dweud eithaf drwg. Mae hi eisiau actio ond yn aml, mae hi’n digaloni wrth ddychmygu fod pobl yn meddwl ei bod hi’n difetha’r ffilmiau. Gyda chefnogaeth oddi wrth ei thîm a’r tiwtoriaid, mae ganddi fwy o hyder yn ei hactio ac mae ganddi lawer mwy o reolaeth ar ei llais.

Mae rhieni’r plant wedi bod wrth eu bodd yn gweld cymaint yn fwy o hunan barch a chred yn eu galluoedd eu hunain sydd gan eu plant.

Mae rhiant un person ifanc sy’n mynychu Cymru Creations wedi sôn pa mor ddiolchgar yw hi am eu help wrth ddatblygu ei mab a gwella ei hyder:

“Mae wedi gwneud y byd o wahaniaeth i’m mab hyd yma. Mae’n wych gweld ei hyder yn blodeuo. Fel arfer bydd yn mynd i’r grŵp Ddydd Mawrth a phob yn ail Ddydd Sadwrn pan mae yma. Diolch yn fawr iawn am bopeth rydych chi wedi’i wneud hyd yn hyn.”

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies