Fy helpu i ddatblygu yn y gêm rwy’n ei charu

Cronfeydd Sir y Fflint

Fy helpu i ddatblygu yn y gêm rwy’n ei charu

Cafodd Jessica, egin chwaraewr badminton, £200 trwy Gronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru Sir y Fflint i allu mynd i wersyll i’w helpu i wella’i gallu technegol a’i ffitrwydd mewn badminton.

“Fe ddefnyddiais i’r grant i helpu i dalu am daith i Ddulyn yn yr Iwerddon i fynd ar Gwrs Hyfforddi Techneg wythnos o hyd, sy’n canolbwyntio ar wella techneg chwaraewyr ar adegau allweddol o’u datblygiad yn y gêm.

Mae gan karate ei wregysau, mae gan nofio ei fathodynnau ac mae gan fadminton grysau-t! Mae yna sawl lefel gyda gwyn, y crys mynediad, a du, y lefel dechnegol uchaf. Hon oedd fy nhrydedd blwyddyn o fynychu’r cwrs ac fe lwyddais i gyrraedd y crys-t lefel gwyrdd.

Cefais fy mhrofi i’r eithaf yn ystod fy wythnos yn y gwersyll; cymysgedd o ddriliau ar y cwrt a hyfforddiant ffitrwydd llym. Roedd y profiad cyfan yn wych, yn enwedig gan fod y gwersyll yn caniatáu i’r rhai iau wylio’r chwaraewyr yn hyfforddi am y gemau Olympaidd.

Rhoddodd y grant hwn gyfle i mi ennill profiad gwerthfawr yn ogystal â’r rhoi’r cyfle i gyfarfod â phobl newydd – a’r chwaraewyr rwy’n dyheu am eu hefelychu.

Yr un pryd, roeddwn yn gwneud ffrindiau gwirioneddol dda ac rwy’n teimlo fy mod hefyd wedi gallu gwella fy chwarae drwy ddysgu technegau newydd.

Heb y grant yma, rwy’n amau a fyddwn wedi gallu fforddio’r daith o gwbl, felly, rwy’n eithriadol o ddiolchgar i Sefydliad Cymunedol Cymru am fy helpu i ddatblygu ymhellach yn y gêm rwy’n ei charu.”

Stories

Trawsnewid bywydau ifanc

Trawsnewid bywydau ifanc

Gronfa i Gymru

Ffermio ar gyfer iechyd meddwl a lles

Ffermio ar gyfer iechyd meddwl a lles

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru