Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru yn £1M

Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru yn £1M

Diolch am eich cyfraniad!

Rydym ni wedi derbyn cefnogaeth llethol i’r Apêl Gwydnwch Coronafirws Cymru ac rydym eisiau dweud diolch i chi gyd am eich cyfraniad hyd heddiw wrth i ni gyrraedd carreg filltir fawr.

Lansiodd Sefydliad Cymunedol Cymru’r gronfa dim ond dwy wythnos yn ôl gydag £200,000 i’w ddosbarthu i elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau di-elw sydd yn gweithio yn Gymru. Diolch i’m cefnogwyr hael, cynghreiriaid gwych fel Admiral a Sefydliad Waterloo ac ein partneriaeth lwyddiannus gydag Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol, rydym yn falch iawn i gyhoeddi heddiw bod y gronfa i gefnogi’r drydydd sector yng Nghymru yn sefyll ar £1,000,000.

Mae’r drydydd sector yn un sydd yn cael ei daro fwyaf gan arafiad economaidd a bydd y cyfraniad o £1 miliwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i gefnogi’r sector yng Nghymru yn ystod y misoedd nesaf.

Er hynny, ar y funud nid oes diwedd ar y gweill, felly mae angen i ni godi mwy o arian i wneud yn siŵr bod y grwpiau yn gallu parhau i wneud y gwaith gwych maent yn ei wneud. Mae hefyd angen arnom i edrych ymlaen at adeg pam bydd y cyfnod o aros adref drosodd. Byddwn yn gweld yr effaith ar wasanaethau iechyd meddwl ac mae rhaid gwneud yn siŵr bod ei’n cymunedau yn gallu darparu cefnogaeth angenrheidiol.

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Mae hun yn gyflawniad gwych – rydym ni yn gwerthfawrogi bob punt sydd wedi cael ei gyfrannu. Mae’r tîm yn gweithio yn galed i gael yr arian allan i’r cymunedau sydd wedi cael ei effeithio galetaf ar draws Gymru ac i lefydd y bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r rai mwyaf bregus.

Rydym ni wedi gweld bod Cymru wedi cael ei effeithio mwy na rhai ardaloedd oherwydd y firws a bydd sialens fawr o’n blaen i ail adeiladu bywydau a chymunedau.

Dyma pam rydym ni yn ail apelio i bobol a busnesau Cymru heddiw – rydym ni dal angen eich cefnogaeth. Mae lot o bobl fregus iawn yng Nghymru ar fin colli cefnogaeth elusennol hanfodol mewn amser bod angen arnyn nhw fwyaf. Gydag eich help chi allwn gynnig llinell bywyd iddyn nhw a’r grwpiau sydd yn ei cefnogi.”

Rydym ni yn diolch i chi am eich cefnogaeth yn ein helpu ni, i helpu eich cymunedau chi, ond dydi’r frwydr ddim drosodd eto ac rydym ni yn gweithio yn galed i wneud yn siŵr bod y drydydd sector yng Nghymru yn parhau i gefnogi eich cymunedau.”

Ystyriwch roi i’r apêl frys hon trwy gyfrannu isod.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu