Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol – pam trafferthu?

 

Yn ôl yn yr hen ddyddiau, cyn y pan demig, roeddwn i mewn cyfarfod o’r bwrdd gydag ymddiriedolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru. Soniodd un o’r aelodau, Joy Kent, wrth fynd heibio, iddi ddechrau sgwrsio mewn dosbarth crochenwaith yn ddiweddar gyda Nigel Lloyd, Rheolwr Gyfarwyddwr Castle Dairies, un o frandiau arweiniol De Cymru.

Rhoddodd fy manylion iddo, ac erbyn mis Ionawr roedden ni wedi cynnal cyfarfod i ganfod beth roedden nhw’n chwilio amdano mewn cronfa gorfforaethol. Yna, aeth popeth dan glo a’r unig goffi ar gael oedd un rhithiol ond dyna sut y dysgais i ychydig yn fwy am y sefydliad yn ei gyfanrwydd ac am ddyheadau dyngarol Nigel.

Cwmni teuluol yw Castle Dairies o Gaerffili a gafodd ei sefydlu yn y 1960au. Mae’n cyflenwi cynnyrch llaeth i bob un o’r prif archfarchnadoedd ar draws y DU. Roedd Nigel eisiau sefydlu cronfa a fyddai’n helpu pobl ifanc, dalentog yng Nghaerffili sydd eisiau astudio pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), ond sydd angen hwb ariannol i gyrraedd eu huchelgais. Mae Cronfa Castle Dairies yn gwneud yn union hynny, yn rhoi 2% o’r elw pob blwyddyn tuag at eu cenhadaeth elusennol.

Ond pam fyddech chi’n sefydlu cronfa gorfforaethol trwy gyfryngwr fel Sefydliad Cymunedol Cymru, yn hytrach na chymryd y llwybr symlach o ganfod elusen sy’n cyd-fynd â’ch gwerthoedd fel sefydliad a chyfrannu’n ad hoc?

Yn syml – oherwydd rydym ni’n cymryd holl waith caled Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol oddi ar eich ysgwyddau. Gallwn ni eich helpu i ganfod lle mae’r angen, yn ddaearyddol neu ar sail achos, a sut y gallwch chi gyflawni’ch uchelgeisiau dyngarol yn y ffordd fwyaf effeithiol.

Gallwn wneud y gwaith caled o ddyletswydd daladwy a dosbarthu grantiau, marchnata’r gronfa a sicrhau fod yr ymgeiswyr yn gyson o safon uchel. Mae’n gronfeydd yn hyblyg sy’n golygu y gallwch addasu’r meini prawf a diben y gronfa yn ôl y gofyn.

Mae gennym arbenigedd mewn creu grantiau a gwybodaeth am y trydydd sector a fydd yn sicrhau fod eich rhoddion yn cael eu gwario’n ddoeth. Yn y man, gallwn eich helpu i ddangos effeithiau eich rhoddion, dros lawer o flynyddoedd ac i lawer o fuddiolwyr. Yn hanfodol, gallwn eich helpu i ddangos i’ch staff, i’ch cwsmeriaid ac i’ch rhanddeiliaid PAM eich bod wedi rhoi, pam nad cragen gorfforaethol wag yw eich rhaglen Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, ond ei bod yn rhan hyblyg, ymatebol ac annatod o athroniaeth a gwerthoedd craidd eich sefydliad.

Cysylltwch â Katy Hales trwy katy@communityfoundationwales.org.uk i ddarganfod mwy.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu