Digwyddiad arloesol cyflwyno grantiau’n mynd ar lein i roi o grantiau i grwpiau cymunedol ledled Gwent

Daeth grwpiau cymunedol at ei gilydd mewn digwyddiad rhithiol i fidio am gyfran o bot grantiau gwerth tua £75,519 o Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.

Aeth digwyddiad ‘Eich Llais Eich Dewis’ ar lein am y tro cyntaf yn ei hanes i alluogi grwpiau i fidio am gyfran o’r pot gwerth £75,519.

Partneriaeth yw’r digwyddiad ‘Eich Llais Eich Dewis’ rhwng Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Sefydliad Cymunedol Cymru i rannu grantiau o hyd at £5,000 i grwpiau cymunedol ledled Gwent.

Roedd gan y digwyddiad ffordd newydd sbon o roi grantiau sy’n galluogi pobl leol i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol a chefnogi prosiectau lleol. Mae hyn yn cael ei wneud fel arfer yn bersonol yn y digwyddiad, pob grŵp ar y rhestr fer yn cael dau funud i sôn am eu prosiect, a’r grwpiau eraill yn sgorio pob cyflwyniad.

Oherwydd y pandemig Coronafeirws, aeth y digwyddiad ar lein gyda 12 grŵp yn cyflwyno fideos o ddim hwy na thri munud yr un yn amlinellu eu syniadau a sut y byddai eu prosiect o fudd i’w cymuned leol.

Roedd y fideos yn cael eu postio ar lein a’r grwpiau eraill yn pleidleisio arnyn nhw. Roedd y prosiectau a oedd yn cael eu cyfrif yn taclo’r problemau pennaf yn derbyn rhan o’r pot grantiau. Oherwydd y ffordd yr oedd y digwyddiad yn cael ei redeg, roedd y grwpiau’n gallu cyflwyno’u storïau yn eu ffordd nhw eu hunain a hefyd rannu eu hegni ac ymrwymiad at wella bywydau yng Ngwent.

Eleni, dyfarnwyd y grant tair blynedd i gefnogi cynaliadwyedd i Gweithredu dros Blant – Gwasanaeth Maethu Cymru. Cafodd y grwpiau aflwyddiannus hefyd £1,000 hefyd rhag iddyn nhw fynd oddi yno’n waglaw.

Y dathliad hwn o gyflwyno grantiau yw uchafbwynt calendr Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent ac roedd yn ben llanw blwyddyn o godi arian gan Uchel Siryf presennol Gwent, Tim Russen. Daeth cyfraniad sylweddol i’r pot grantiau hefyd oddi wrth Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert.

Mae Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent yn gweithio’n galed i adeiladu cymunedau diogelach yng Ngwent trwy gefnogi prosiectau sy’n mentora ac yn ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni’u potensial. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddathlu’r gwaith caled ac ymroddiad y gwirfoddolwyr a’r grwpiau cymunedol sy’n gwneud cymaint i wella bywydau pobl Gwent.

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru wrth sôn am y digwyddiad:

“Mae’r digwyddiad eleni, er yn wahanol i rai’r blynyddoedd diwethaf, yn arddangos sefydliadau cymunedol yng Ngwent sy’n gweithio’n ddiflino i wella bywydau pobl yn eu cymunedau.

Mae Eich Llais Eich dewis yn rhoi llwyfan i gymunedau cymunedol i rannu eu storïau, yn aml drwy eiriau’r bobl sy’n elwa’n uniongyrchol o’r prosiectau, ac yn nerthu pobl leol i flaenoriaethu atebion i broblemau lleol.

Rydyn ni eisiau diolch i bawb sydd wedi addasu i’r fformat newydd hwn ac sydd wedi cymryd rhan yn Eich Llais Eich Dewis eleni.

Meddai Tim Russen, Uchel Siryf Gwent 2020-21;

“Heb os, uchafbwynt fy mlwyddyn fel Uchel Siryf Gwent oedd cyfarfod cymaint o bobl hollol arbennig, o bob cwr o’n sir, sy’n gwneud cymaint i gynnal ein cymunedau – mae eu hangerdd, eu sgiliau a’u hynni’n rhyfeddol.

Penllanw fy mlwyddyn yn y swydd yw Eich Llais Eich Dewis Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent, digwyddiad arloesol i gyfranogi mewn cyflwyno grantiau, lle mae’r rhai sy’n cymryd rhan mewn sefydliadau lleol yn cael penderfynu pa brosiectau sy’n haeddu grantiau ac sy’n ateb orau anghenion lleol.

Mae digwyddiad eleni’n dangos unwaith eto pa mor lwcus ydyn ni yng Ngwent o gael cymaint o wahanol dalentau ac amrywiaeth.

Y sefydliadau llwyddiannus yn nigwyddiad 2021 oedd:

  • Action for Children – Fostering Service
  • Duffryn Community Link
  • Follow Your Dreams Charity
  • Griffithstown Communal Garden
  • Hafal
  • HCT (Help Caring Team)
  • Live Music Now Wales
  • Made in Tredegar
  • Newport Sea Cadets
  • RecRock
  • Savoy Youth Theatre
  • The Aloud Charity
  • Veterans Awards CIC

Gweler y fideos yma.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu