Mae’ch cymuned – a Chymru – eich angen

Mae Cymru yn llythrennol wedi cael ei hysgwyd i’w chraidd gan y firws yma. Mae swyddi’n cael eu colli, nid yw pobl yn gallu cymdeithasu, mae’r siopau’n rhedeg allan o gyflenwadau sylfaenol. Ydym, rydym mewn cyfnod o ansicrwydd brawychus.

Mae un o gryfderau gwirioneddol Cymru – ein hymdeimlad o gymuned – yn cael ei brofi mewn ffordd nad yw ein cenhedlaeth wedi’i phrofi.

Ac wrth gwrs, i lawer, daw hyn ar ôl i lifogydd ddifetha eu cartrefi, colled cyllid Ewropeaidd a toriadau enfawr mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Ond rydyn ni’n bobl gydnerth. Mae’r arwyddion yn dechrau dod i’r amlwg. Rydyn ni’n ei weld yn y gwirfoddolwyr sy’n cynnig helpu eu cymdogion gyda siopa neu bicio i’r fferyllfa. Rydyn ni’n ei weld mewn elusennau a grwpiau cymunedol dirifedi, eisoes yn dechrau addasu sut maen nhw’n cefnogi eu cymuned leol i sicrhau bod cefnogaeth hanfodol yn parhau a bod eu gwirfoddolwyr neu staff yn ddiogel ac yn iach.

Rydyn ni’n gwybod bod llawer ohonom ni eisiau gwneud mwy. Ond mae angen mwy o adnoddau arnom i helpu’r cymunedau hyn – ac mae eu hangen arnom ar frys.

Heddiw rydym yn lansio Cronfa Gwydnwch Coronavirus Cymru, cronfa i helpu’r trydydd sector yng Nghymru i oresgyn yr amser ofnadwy hwn, i gryfhau ac i addasu.

Mae’n gronfa i sicrhau bod y mudiadau yma yno ar gyfer y bobl sydd eu hangen ar hyn o bryd yn fwy nag erioed.

Bydd y gronfa yn canolbwyntio ar lawr gwlad, y grwpiau bach lleol ledled Cymru sy’n aml yn cael eu hanwybyddu gan yr arianwyr cenedlaethol mawr. Nhw yw’r glud sy’n cadw ein cymunedau gyda’i gilydd, sy’n arbed pobl rhag ynysu. Nhw fydd ein blaenoriaeth yma.

Dyma enghreifftiau o sut allai y gronfa eich cefnogi:

  • helpu iechyd meddwl pobol gyda ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau i bobl bregus wedi eu hynysu
  • cefnogi grwpiau sydd yn gweld galw mwy am eu gwasanaethau ee cyngor, materion tai, budd-daliadau
  • darparu gwasanaethau yn y ty, efallai gan ddefnyddio dulliau digidol neu drwy fynd a bwyd i dai pobol

Rydym yn annog unrhyw un a all roi, i weithredu ac i gefnogi’r gronfa bwysig hon. Rydym yn croesawu unrhyw roddion o £5. Rhowch yr hyn y gallwch chi ei fforddio ar yr adeg hon.

Os bu erioed amser pan oeddech chi’n ystyried sut y gallwch chi roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned a’ch gwlad – dyma ni. Mae angen ein cefnogaeth ar eich cymuned – a Chymru – yn fwy nag erioed o’r blaen. Dyma yr amser i wneud gwahaniaeth.

Byddem yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth.

Diolch yn fawr

 

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu