Nid yw bod yn Ymddiriedolwr yn “weithred anhunanol”

Pan ofynnodd y bobl hyfryd yn Sefydliad Cymunedol Cymru i mi wneud blog ar gyfer Wythnos Ymddiriedolwyr, roeddwn i’n disgwyl rhestru’r holl resymau pan mae’n ffordd wych o roi’n ôl.

Ond roedd yr hyn ddigwyddodd wrth yr allweddellfwrdd yn annaearol o debyg i bennod glasurol o Friends: yn hytrach na bod yn rhoddwr anhunanol o’m hamser a’m harbenigedd gwerthfawr, roedd yn ymddangos fy mod yn cael andros o lot allan o ymuno â rhoddwr grantiau mwyaf Cymru fel ymddiriedolwr…

Yr holl angerdd, dim o’r helbulon

Rydym yn gynyddol ymwybodol o werth bod yn angerddol dros rywbeth yn ein bywydau: hobi efallai, eich gwaith neu’ch teulu – ac os ydych yn wirioneddol lwcus, y tri. Mae angerdd yn eich gwreiddio, yn gwneud y brwydo’n werth chweil, yn eich helpu i gario ymlaen a gallu edrych yn syth i lygad eich adlewyrchiad. Mae hefyd yn wir fod yr angerdd hynny’n dod – er yn werth chweil – a llawer o helbul, pryder a rhyw fath o gost neu aberth.

Ond nid felly pan fyddwch yn ymddiriedolwr – os byddwch chi’n dewis y sefydliad iawn ar eich cyfer chi. Rwy’n angerddol dros garedigrwydd a chymuned ac felly rwy’n CARU’r hyn mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n ei wneud: maen nhw’n gwneud gwaith ffantastig o helpu busnesau i roi yn ôl yn effeithiol ac yn y ffordd y maen nhw ei eisiau, gan eu cydweddu gyda’r achosion cymunedol cywir iddyn nhw. Mae’n syml, yn athrylithgar ac mae’n newid bywydau pobl.

Ac nid yn unig mae’n cydweddu’n berffaith gyda’r hyn y mae gen i ots amdano, mae’r tîm yn wych ac wedi’i drefnu’n wirioneddol dda, felly maen nhw’n ei gwneud yn hawdd ac yn ddifyr i mi chwarae fy rhan fach i – y cyfan heb unrhyw anhawster. Angerdd heb helbul – beth sydd i beidio â’i garu?

Cyfleoedd dysgu ysbrydoledig

Rwy’n dysgu llawer oddi wrth grŵp amrywiol o bobl na fyddwn erioed wedi gweithio gyda nhw fel arall. O bob cwr o Gymru, gyda llawer o brofiadau gwahanol, mewn bywyd ac yn broffesiynol , mae pawb â’i safbwyntiau gwerthfawr ei hunan sy’n fy nghadw i ddysgu. Hefyd, rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i gymryd rhan mewn rhywfaint o hyfforddiant ffurfiol ar bynciau pwysig yn amrywio o amcanion datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, i lywodraethiant, o fesur effeithiau i adnabod tueddiad ddiarwybod.

Her dda

Mae’n rhaid cael her mewn busnes ond yn anffodus mae’n gallu cael ei ystumio gan agenda bersonol. Yn lwcus iawn, yn fy mhrofiad i gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, mae’r ystafell fwrdd yn lle o graffu cywir yn ogystal â chyflwyno heriau adeiladol. Oherwydd bod pawb yn canolbwyntio ar gael y canlyniadau gorau un i staff a chymunedau, mae’r cyfarfodydd hynny yn cael eu rheoli mor dda, mae’r drafodaeth yn procio’r meddwl ac yn awyr iach yr un pryd.

Teimlo’n dda ynghylch yr hyn sydd gennych chi i’w gynnig

Yn ein bywydau proffesiynol a phersonol, gallwn deimlo’n aml nad ydyn ni’n gwneud digon, ddim yn helpu digon neu dim ond ddim yn ddigon da, ac mae syndrom person ffug yn gallu cropian i mewn. Pan fyddwch chi’n dod yn ymddiriedolwr, fe fyddwch, fel arfer yn cael eich recriwtio oherwydd yr union sgiliau rydych yn eu defnyddio pob dydd ac a fydd yn cael eu gwerthfawrogi yn y gymysgedd.

Cymryd safbwynt strategol gwirioneddol

Rwy’n gweithio bob dydd mewn strategaeth felly rwyf wrth fy modd yn edrych ar y tymor hirach. Mae’n gallu bod yn anos ennill profiad strategol mewn swydd bob dydd, yn enwedig i bobl broffesiynol iau: Fe hoffwn i awgrymu fod ystafell fwrdd elusen yn lle perffaith i wneud hynny, yn enwedig gan y byddai cymaint o elusennau’n croesawu mewnbwn pobl iau.

 

Felly, dyna ni, yng ngeiriau Joey Tribbiani, “Sori i chwalu’r swigen ond nid yw gwneud pethau da anhunanol yn bodoli” – rydym i gyd yn cael rhywbeth allan o’u gwneud. Dyna, yn bendant, yw fy mhrofiad yw gyda Sefydliad Cymunedol Cymru. Felly, byddwn yn argymell yn gryf ystyried dod yn ymddiriedolwr – efallai byddwch yn cael eich synnu beth gewch chi allan ohono.

News

Gweld y cyfan
Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Mae digwyddiad ‘Eich Llais, Eich Dewis’ yn dod â grwpiau cymunedol o bob rhan o Went at ei gilydd

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Yr heriau cynyddol sy’n wynebu ymddiriedolwyr elusennau

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu

Grymuso sefydliadau: Cryfhau arferion llywodraethu a diogelu