Sefydliad Waterloo yn rhoi £200,000 i helpu cymunedau i ymateb ac adfer
Mae Sefydliad Waterloo wedi cyfrannu £200,000 i Gronfa Gwytnwch Coronafeirws Sefydliad Cymunedol Cymru i helpu grwpiau ddarparu cefnogaeth argyfwng ac i gynllunio ar gyfer adfer yn y tymor hir o effeithiau’r pandemig.
Hyd yma, mae’r gronfa wedi cefnogi grwpiau yng Nghymru gyda 856 o grantiau, llawer ar gyfer darparu bwyd i bobl fregus neu offer i gadw pobl yn ddiogel.
Race Council Cymru yw dim ond un o’r grwpiau sy’n cael eu cefnogi gan Gronfa Gwytnwch Coronafeirws Cymru. Rhoddwyd y grant i ddarparu gliniaduron i deuluoedd BAME oedd heb ddyfeisiadau electronig i alluogi plant i ddysgu ar lein yn ystod y cyfnod clo. Yma cawn glywed beth oedd hynny’n ei olygu i un person ifanc.
Bydd rhodd hael Sefydliad Waterloo yn golygu y bydd llawer mwy o gymunedau ledled Cymru sydd wedi dioddef yn cael cefnogaeth gyflym.
Meddai Katy Hales, Donor Advised Giving:
“Rydyn ni wrth ein bodd o dderbyn rhodd o £200,000 gan Sefydliad Waterloo tuag at ein Cronfa Gwytnwch Coronafeirws ac mor ddiolchgar am eu cefnogaeth barhaus. Mae’r gronfa wedi bod yn hanfodol i helpu grwpiau elusennol a sefydliadau gwirfoddol i ddal ati gyda’u gwaith hanfodol, yn cefnogi cymunedau ledled Cymru yn ystod y pandemig hwn”.
Meddai Anna Rees o Sefydliad Waterloo:
”Mae Sefydliad Waterloo’n falch o gefnogi cronfa Gwytnwch Coronafeirws Sefydliad Cymunedol Cymru. Er ein bod ni’n deall fod elusennau’n dal i ymateb i effeithiau dinistriol y pandemig hwn, rydyn ni hefyd yn cydnabod eu bod angen llawer mwy o gymorth i adfer ac i sicrhau eu bod mewn lle da i ddal i allu helpu’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu yn y misoedd anodd sydd o’u blaenau”.
Er y bydd rhodd Sefydliad Waterloo yn ddigon i helpu tua hanner y rhai sydd wedi ymgeisio i Sefydliad Cymunedol Cymru yn ystod y mis diwethaf, mae yna, ar hyn o bryd, tua 100 yn dal heb dderbyn arian.
Er enghraifft, mae Cymdeithas Arddio Gymunedol Star Hub yng Nghaerdydd yn chwilio am grant o £6,219 i’w helpu i ddatblygu gardd gymunedol yng Nghaerdydd er mwyn gallu tyfu mwy o gnydau, helpu mwy o wirfoddolwyr i gael sgiliau newydd a gwella iechyd meddwl y rhai sy’n cymryd rhan.
Byddai cael grant o £18,430 yn galluogi Brighter Futures yn y Rhyl i gyflogi staff i ail gychwyn eu gweithgareddau ieuenctid. Mae hon yn ardal ddifreintiedig, felly mae’n bwysig bod pobl ifanc y gymuned yn gallu manteisio ar y cyfleoedd y maen nhw wedi eu colli oherwydd y pandemig i hyfforddi a gwella’r sgiliau.
Mae angen rhagor o arian ar frys i gefnogi prosiectau fel y rhain. Gall rhoddwyr a chefnogwyr corfforaethol sydd eisiau dangos eu hymrwymiad i helpu’r trydydd sector yng Nghymru yn y cyfnod anodd hwn ddarparu cymorth ariannol hanfodol.
Ychwanegodd Katy Hales, Donor Advised Giving:
“Mae haelioni’r rhoddwyr hyd yma wedi bod yn rhyfeddol ond nid yw’r problemau y mae’r trydydd sector, a’r rhai sy’n eu cefnogi, yn mynd i ddiflannu – os rhywbeth, maen nhw’n gwaethygu.
Ein gobaith ni yw y bydd y cyfraniad hwn gan Sefydliad Waterloo yn annog cefnogwyr eraill i ystyried sut y gallen nhw chwarae rhan mewn sicrhau fod rhai o gymunedau mwyaf bregus Cymru’n derbyn yr help y maen nhw wirioneddol ei angen yn ystod y drydedd don hon o gyfnod clo.”
Cliciwch yma i ganfod sut y gallwch chi gymryd rhan yng Nghronfa Gwytnwch Coronafeirws Cymru.