Carol Doyle

Cynorthwyydd Gweinyddu Cyllid

Carol Doyle

Fy nghefndir

Cyn ymuno â Sefydliad Cymunedol Cymru ym mis Ionawr 2018 gweithiais i’r Swyddfa Gymreig/Llywodraeth Cymru am 35 mlynedd. Cyn ymddeol, fi oedd y Rheolwr Datblygu Polisïau Adnoddau Dynol ond cyn hynny roeddwn wedi mwynhau gweithio fel Rheolwr Pensiynau, Rheolwr Cyflog ac ar y tîm Polisi Iechyd Meddwl. Cyn symud i Gymru yn 1983, roeddwn yn gweithio yn y Swyddfeydd Trethi yn Nulyn.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Fi yw’r Cynorthwy-ydd Gweinyddu Cyllid ac rwy’n gweithio’n agos gyda’r Rheolwyr Cyllid, Ymchwil a Grantiau er mwyn helpu i sicrhau bod ein holl weithgarwch ariannol a’n cofnodion yn gywir, mewn trefn ragorol a bod taliadau grantiau yn cyrraedd eu buddiolwyr cyn gynted â phosibl.

Holwch fi ynghylch...

Pob agwedd ar gofnodion a gweithgarwch ariannol. Gallaf hefyd eich helpu gyda materion sy’n ymwneud â pholisi Adnoddau Dynol, treth a chyflog/pensiynau.

Pam rwy'n caru Cymru

Rwyf wedi byw yng Nghymru ers 35 mlynedd a, fel Gwyddeles, rwyf wir yn gwerthfawrogi pa mor unigryw yw hanes, diwylliant, iaith ac amrywiaeth Cymru o ran ei phobl a’i daearyddiaeth hyfryd. Rwy’n hoff iawn o weld Cymru yn llwyddo ym mhopeth.

Team members

Gweld y cyfan
Asha Vijendran

Asha Vijendran

Pennaeth Gweithrediadau Grantiau

Richard Williams

Richard Williams

Prif Weithredwr

Andrea Powell

Andrea Powell

Cyfarwyddwr Rhaglenni (Dirprwy Prif Weithredwr)

Katy Hales

Katy Hales

Cyfarwyddwr Dyngarol