Claire Buckley
Swyddog Grantiau

Fy nghefndir
Rwyf wedi gweithio i nifer o elusennau gwahanol sydd yn gwneud mathau gwahanol o ffyrdd dros y 9 mlynedd diwethaf.
Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn y 3ydd sector ac rwy’n angerddol am wneud gwahaniaeth yng Nghymru. Rwyf yn edrych ymlaen i gefnogi ymgeiswyr grant, dysgu popeth am y prosesau rhoi grantiau a gweld y manteision y gall cyllid y Sefydliad Cymunedol eu gwneud i cymunedau ledled Cymru.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Rwyf yn aelod o’r Tîm Grantiau sydd yn sicrhau bod rhaglenni Grantiau y Sefydliad yn rhedeg yn effeithiol, a’n bod yn hyrwyddo dyngarwch yng Nghymru.
Holwch fi ynghylch...
Ceisiadau grant newydd neu ddyfarniadau sy’n bodoli eisoes a sut y gall ein tîm eich cefnogi gyda’r ddau.
Pam rwy'n caru Cymru
Symudais i ffwrdd o Gymru pan oeddwn yn fy arddegau, ond nawr mae’n gartref eto i mi a fy nheulu ifanc ac rydym wrth ein bodd yma. Mae gennym ddinas, cefn gwlad, arfordir a choedwigoedd i gyd ar garreg ein drws ac rydym yn teimlo’n lwcus iawn i alw Cymru’n gartref eto.