Coginio ar gyfer iechyd a lles

Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru

“Mae bod yn rhan o’r prosiect hwn wedi rhoi brwdfrydedd i mi fynd allan mwy, bwyta’n well a gwella fy iechyd cyffredinol sydd yn ei dro wedi cael effaith gadarnhaol anfesuradwy ar fy iechyd meddwl.”

Mae Stepping Stones yn darparu cymorth a chwnsela i oedolion sydd wedi goroesi eu cam-drin yn rhywiol tra yn blant.

Cawsant grant gan Gronfa Cadernid Coronafeirws Cymru tuag at eu prosiect ‘Step by Step Cook a Chill’ i helpu’r bobl y maent yn gweithio gyda nhw i ddeall sut mae’r bwyd y maent yn ei fwyta yn effeithio ar eu bywyd, eu teulu, eu hiechyd, eu hwyliau a’u cyllideb.

Roedd y grant yn galluogi pob aelod o’r prosiect i gymryd rhan mewn dosbarthiadau coginio, coginio gyda chynhwysion ffres, yn dilyn rysáit, cyllidebu a chynllunio bwydlenni. Roedd pawb yn gallu cael mynediad i’r ‘Ardd Tyfu gyda Hyder’ a gwella eu sgiliau garddio i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain i’w defnyddio i goginio gartref.

Dywedodd yr holl gyfranogwyr fod eu hiechyd meddwl a’u lles a’u hymwybyddiaeth o fwyd wedi gwella’n sylweddol drwy eu hymwneud â’r prosiect.

Dywedodd un a oedd yn bresennol:

“Rwy’n dioddef o orbryder ac iselder ac mae’r prosiect hwn wedi rhoi hwb i’m hwyliau a’m lles y tu hwnt i gred.

Yr wyf wedi elwa’n fawr o fod yn rhan o’r prosiect hwn mewn cymaint o ffyrdd. Mae wedi fy annog a’m galluogi i a’m plant i dyfullysiau a ffrwythau ein hunain. Mae wedi rhoi pwrpas a chymhelliant i mi fynd allan a chyflawni cymaint mwy nag yr oeddwn yn meddwl y gallwn. Mae fy mab 8 oed yn gofalu am ei dŷ gwydr bob dydd, mae’n dioddef o bryder ac rwyf wedi gweld newid gwirioneddol ynddo. Mae mor hapus yn gofalu am ei blanhigion ar ôl ysgol bob dydd.

Rwyf wedi cael fy nghefnogi ac wedi cael popeth yr oedd ei angen arnaf i adeiladu gwelyau uchel i blannu llysiau a choed ffrwythau a gardd berlysiau. Rwyf bellach yn ymfalchïo yn yr hyn rwyf wedi’i wneud a gallaf weld y canlyniadau yn yr hyn rwy’n ei dyfu a llysiau ffres hyfryd i’w bwyta!”

Dywedodd Shirley McCann, Rheolwr Gwirfoddoli a Digwyddiadau Stepping Stone:

“Rwyf wedi gweld newid sylweddol yn y rhai sydd wedi cymryd rhan yn ein prosiect, gwir ddiddordeb, mwynhad a balchder yn eu sgiliau coginio.

Rwy’n eu clywed yn siarad am werthoedd maethol mathau o fwyd, rhoi cynnig ar fwyd newydd a choginio gyda’u plant. Maent yn ymarfer corff, yn nofio, yn garddio, yn teimlo’n dda amdanynt eu hunain, yn magu hyder, yn llai pryderus ac yn gwella iechyd meddwl a lles yn gyffredinol.

Newid cadarnhaol gwirioneddol mewn meddylfryd a phawb yn hapus iawn ac yn llawn brwdfrydedd y gwn y byddant yn ei gario i’r dyfodol.”

Stories

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Gwella cyfleoedd i bobl ifanc â dyslecsia

Cronfa i Gymru

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cefnogi pobl ifanc i fynegi eu hunain trwy gerddoriaeth

Cronfeydd Sir y Fflint

Lles yn y coed

Lles yn y coed

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies