Mudiad Meithrin
![Mudiad Meithrin](https://communityfoundationwales.org.uk/wp-content/uploads/2020/08/Mudiad-Meithrin-e1597313380717.png)
“Mae Mudiad Meithrin wedi bod yn gweithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru ers 2018. Sefydlwyd cronfa asiantaeth gennym o fewn y Sefydliad, gyda swm sylweddol o’n cronfeydd elusenno. Drwy hyn, rydan ni yn diogelu gwerth yr asedau gwreiddiol a thyfu’r gronfa drwy fuddsoddiadau. Roedd partneriaeth gyda CFW yn berfffaith oherwydd ein bod yn teimlo ymlyniad cryf i’w gwerthoedd, a’u cysylltiad â chymunedau Cymru ledled y wlad.
Gobeithiwn bod model cronfa’r asiantaeth yn ein galluogi i sicrhau y bydd Mudiad Meithrin yn parhau i fodoli am genedlaethau i ddod. Mae buddsoddi drwy gronfa asiantaeth hefyd wedi rhoi cyfle inni gefnogi gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru. Caiff ffioedd o gronfeydd asiantaeth eu hailfuddsoddi’n syth i gymunedau Cymru, gan alluogi’r Sefydliad i ddod yn gryfach ac i gefnogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd.”